Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe logo
Cyfeiriad
Matrix House
Floor 2
Northern Boulevard
Swansea Enterprise Park
Swansea
SA6 8BX
Rhif ffôn
02920 905353

Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn flaenorol) ei greu ar 1 Ebrill 2019 ar ôl i’r cyfrifoldeb am wasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei drosglwyddo o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cynnwys ardaloedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe sydd â phoblogaeth o tua 390,000 ac mae gennym gyllideb o tua £1bn. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyflogi tua 12,500 o staff.

Mae ganddo dri phrif ysbyty sy’n darparu ystod o wasanaethau: Ysbyty Treforys ac ysbyty Singleton yn Abertawe ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Maglan, Port Talbot.

Mae hefyd gennym ysbyty cymunedol a chanolfannau adnoddau gofal sylfaenol sy’n darparu gwasanaethau clinigol y tu allan i’r prif ysbytai.

Mae contractwyr gofal sylfaenol annibynnol yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o ofalu am ein poblogaeth ac mae’r Bwrdd Iechyd yn comisiynu gwasanaethau gan feddygon teulu, fferyllwyr a deintyddion ar draws yr ardal

Mae gennym 49 o bractisiau meddygon teulu yn ardal y Bwrdd Iechyd, 72 practis deintyddol gan gynnwys orthodeintyddion, 31 practis optometreg a 92 fferyllfa gymunedol.

Darperir gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu mewn ysbytai a lleoliadau yn y gymuned.

Nid yw Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Ysbyty Treforys ond yn gwasanaethu De a Chanolbarth Cymru, mae hefyd yn gwasanaethu De-orllewin Lloegr. Mae Ysbyty Treforys hefyd yn darparu un o’r ddau o wasanaethau llawfeddygaeth gardiaidd sydd ar gael yng Nghymru.

Mae gwasanaethau arbenigol eraill a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd yn cynnwys gwasanaethau gwefus a thaflod hollt, arennol, ffrwythlondeb a bariatrig (gordewdra).

Darperir Gwasanaethau Iechyd Meddwl Fforensig i’r gymuned ehangach ar draws De Cymru gyfan.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn rhan o Gydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) sy’n bartneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe. Mae ARCH yn brosiect cydweithredol unigryw a anelir at wella llesiant a chyfoeth De-orllewin Cymru.

I ddysgu mwy amdano, ewch i: https://bipba.gig.cymru/

Ein gwerthoedd: https://bipba.gig.cymru/swyddi/pam-gweithio-i-ni/

Our values: https://sbuhb.nhs.wales/jobs/why-work-for-us/

 

Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn Nyrsio a bydwreigiaeth, Meddygol a deintyddol, Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector