Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Teitl cyflogwr

Canolfan Ganser Felindre logo
Cyfeiriad
Velindre Cancer Centre
Velindre Road
Whitchurch
Cardiff
CF14 2TL
Rhif ffôn
029 2061 5888

Mae Canolfan Ganser Felindre yn darparu gwasanaethau canser arbenigol i dros 1.5 miliwn o bobl yn Ne-ddwyrain Cymru a thu hwnt. Rydym yn un o ganolfannau canser mwyaf y DU. Rydym yn delio â dros 5,000 o atgyfeiriadau newydd a thua 50,000 o apwyntiadau cleifion allanol newydd bob blwyddyn. Rydym yn cyflogi dros 670 o staff ac mae gennym gyllideb flynyddol o dros £49 miliwn.

Mae Canolan Ganser Felindre yn rhan o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre   http://www.velindre-tr.wales.nhs.uk (dolen we allanol)

Cyrraedd Felindre (gan gynnwys map Google a chynllun o’r safle)

Trafnidiaeth Cymru (dolen we allanol)

Bws Caerdydd (dolen we allanol)

Mae cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio at Ganolfan Ganser Felindre yn dod o dan ofal Oncolegwyr Clinigol a Meddygol. Mae oncolegwyr yn arbenigo mewn triniaeth anfeddygol o ganser. Canolfan Ganser Felindre yw’r brif ganolfan ar gyfer y gwasanaethau hyn, fodd bynnag, rydym hefyd yn darparu clinigau cleifion allanol a gwasanaethau cemotherapi eraill ar safleoedd eraill.

Rydym wedi ein lleoli’n agos at yr M4 (cyffordd 32) ac oddeutu 3/4 milltir o orsafoedd trenau Coryton a Llandaf. Mae pentref yr Eglwys Newydd hefyd lai na hanner milltir i ffwrdd ac mae’n cynnig ystod o siopau a gwasanaethau eraill. Rydym yn darparu mannau parcio am ddim i gleifion/ymwelwyr/teulu ac mae mynediad gwastad i’r mwyafrif o ardaloedd (mae lifftiau ar gael i bob ardal cleifion ar y llawr 1af).

Mae nifer y cleifion wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i’r ffyrdd o drin a diagnosio canser barhau i ddatblygu. Adlewyrchir y cynnydd hwn gan yr angen cynyddol am staff medrus a phrofiadol iawn. Rydym yn chwarae rhan sylweddol yn y broses o addysgu a hyfforddi gweithwyr proffesiynol gofal iechyd er mwyn gallu ateb y galw yn y dyfodol. Mae'r ganolfan ganser yn sefydliad lletyol ar gyfer adran Oncoleg Glinigol Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru (dolen we allanol). Mae’r Athro Malcolm Mason a’r Athro Ilora Finlay (meddygaeth liniarol) yn arwain yr adran hon.

Yn ogystal â hyfforddiant Oncoleg a Lliniarol arbenigol, mae Felindre hefyd yn darparu hyfforddiant ar gyfer:

Nyrsys canser

Fferyllwy

rFfisegwyr meddygol ac mae’n cynnig lleoliadau clinigol ar gyfer myfyrwyr radiograffeg therapiwtig o Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru "

Rhestr swyddi gyda Canolfan Ganser Felindre yn Nyrsio a bydwreigiaeth