Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Meddygol a Llawfeddygol
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Cyfnod Parhaol/Penodol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS619-1125
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 17/11/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 01/12/2025
Teitl cyflogwr
Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae nifer o gyfleoedd cyffrous ar gael yn Ysbyty Glan Clwyd ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd Band 2 parhaol/cyfnod penodol o fewn ein Huwch Adran Feddygol a Cyfarwyddiaeth Lawfeddygol.
Fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Band 2 byddwch yn:
· Gweithio fel rhan o'r tîm amlddisgyblaethol sy'n gofalu am gleifion gyda chefnogaeth a goruchwyliaeth gan weithiwr proffesiynol gofal iechyd cofrestredig.
· Ymgymryd â gweithgareddau a thasgau gofal personol fel y'u dirprwyir gan weithiwr proffesiynol gofal iechyd cofrestredig, yn unol â Chanllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan AaGIC.
· Sicrhau bod y gweithiwr proffesiynol gofal iechyd cofrestredig yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am gyflwr a gwelliant/dirywiad y claf/cleient.
· Cynnal safonau uchel o ran glendid yn y lleoliad gofal iechyd a storio eitemau stoc yn briodol.
· Cyflawni'r rôl yn unol â gwerthoedd y Bwrdd Iechyd a'r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Iechyd Cymru.
Mae oriau llawn a rhan amser ar gael.
Mae tâl ychwanegol am weithio'r Tu Allan i Oriau a buddion staff ar gael.
Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar os byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ymgeiswyr sydd â diddordeb i wneud cais cyn gynted â phosibl i osgoi cael eu siomi.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cynorthwyo'r nyrs gofrestredig/ymarferydd i sicrhau safonau uchel o ran y gofal cyfannol a ddarperir i gleifion, gan ofalu y cynhelir urddas cleifion a chydraddoldeb bob amser.
Sicrhau bod yr egwyddorion a amlinellir yn yr hanfodion gofal yn cael eu hymgorffori mewn arferion beunyddiol er mwyn gofalu y darperir gwasanaeth o ansawdd uchel i gleifion a chleientiaid. Cyflawni dyletswyddau a nodir yn y cynllun gofal sydd wedi’u dirprwyo gan ymarferydd cymwys (dim ond y dyletswyddau hynny y bydd deilydd y swydd wedi cael hyfforddiant ac asesiadau priodol er mwyn gallu eu cyflawni).
Cynorthwyo cleifion gydag anghenion dietegol a hydradu a chefnogi gyda gofynion hylendid personol. Cynnal safonau uchel o lendid a dilyn canllawiau atal heintiau.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae'r un cyfle i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae Disgrifiad Swydd a Manyleb yr Unigolyn wedi'u cynnwys yn y dogfennau ynghlwm, neu cliciwch ar "Ymgeisiwch nawr" i'w gweld ar wefan Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel 2 mewn gofal neu’r gallu i ymgymryd â chyfnod sefydlu a hyfforddiant yn y swydd i gynnwys gwybodaeth ddamcaniaethol am ofal ac ystod o weithdrefnau cysylltiedig â gwaith, er enghraifft cwblhau llyfr gwaith seiliedig ar gymhwysedd sy’n cyfateb i Gymhwyster Galwedigaethol Lefel 2
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Galwedigaethol Lefel 2 mewn pwnc perthnasol sy'n ymwneud â gofal iechyd Search for this on G
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio fel rhan o dîm
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio gyda phobl mewn rôl gofalu.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu da - ar lafar ac yn ysgrifenedig, gyda'r gallu i gyfleu gwybodaeth yn glir ac yn sensitif.
- Y gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd llawn straen.
- Y gallu i ddangos agwedd ofalgar a thosturiol.
- Sgiliau trefnu, gyda'r gallu i gynllunio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun yn effeithlon.
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn lefelau 1 i 5 dymunol mewn deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Emma Runcie
- Teitl y swydd
- Senior Recruitment Officer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07977 762784
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth






.png)
