Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Camddefnyddio Sylweddau
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-NMR426-0524
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Dawn
Tref
Bae Colwyn
Cyflog
£28,834 - £35,099 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
30/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Nyrs Cymuned Camddefnyddio Sylweddau / CPN

Gradd 5

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer swydd Nyrs Seiciatrig Gymunedol Band 5 yng Ngwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Conwy.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu ymyriadau asesu a thriniaeth cynhwysfawr i unigolion sy'n camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys asesu risg, gofal cymdeithasol ac effeithiau seicolegol ar unigolion syss yn camddefnyddio sylweddau. Hefyd i weithio fel ymarferydd ymreolaethol mewn lleoliadau cymunedol gan gynnwys cartrefi defnyddwyr y gwasanaeth. Bydd deiliad y swydd yn rheoli achosion ac yn cefnogi unigolion trwy eu triniaeth o fewn y gwasanaeth. Byddant hefyd yn gyfrifol am oruchwylio aelodau staff iau a chefnogi eu datblygiad.

Sylwch ar gyfer myfyrwyr Cymru, rhaid i chi wneud cais trwy Symleiddio lle gellir dod o hyd i’r holl swyddi sydd ar gael.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd gan ddeiliad y swydd wybodaeth a phrofiad o ymyriadau a thriniaeth camddefnyddio sylweddau a bydd gofyn iddynt ddefnyddio sgiliau cyfathrebu effeithiol i ymgysylltu, cymell a chynnal parhaus o gysylltiad gyda defnyddwyr y gwasanaeth ac i fod yn gyfrifol am ddatblygu a gwerthuso rhaglenni triniaeth fel sy'n briodol. Bydd strwythr ac anghenion unigolion yn caeu eu trafod yn y cyfweliad. Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth camddefnyddio alcohol a chyffuriau. Gofynnir i ymgeiswyr ddefnyddio'r adran "Gwybodaeth Ategol" ar y ffurflen gais i nodi eu rhesymau dros wneud cais a'u haddasrwydd, gan gyfeirio at  fanyleb person, ar gyfer y swydd hon.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch.

Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".


Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w weld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a / neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad NMC
  • Ymwybyddiaeth o ffiniau proffesiynol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster academaidd sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i gydnabod ac ymateb i ymddygiadau sy'n heriol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn lleoliad cymunedol
  • Gwybodaeth broffesiynol am gamddefnyddio sylweddau

Cymhwyster a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol
  • Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth
  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm aml-ddisgyblaeth
  • Sgiliau casglu data
  • Dangos gallu i gefnogi a goruchwylio staff
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau perthnasol ychwanegol

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am ymyriadau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Ymwybyddiaeth o’r agenda iechyd cyfnewidiol i GIG Cymru
  • Ymwybyddiaeth o faterion camddefnyddio sylweddau cenedlaethol a lleol
Meini prawf dymunol
  • Ymwybyddiaeth arbenigol o effeithiau cyffuriau ac ymyriadau triniaeth priodol/sydd ar gael.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Dull proffesiynol, sgiliau rheoli amser, sgiliau rheoli newid, hyderus a'r gallu i weithio'n gadarnhaol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol.
  • Gallu gwneud eich trefniadau teithio eich hun at ddibenion gwaith.
  • Gallu teithio y tu mewn a thu allan i ffiniau sirol.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jackie Williams
Teitl y swydd
Team Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 853333