Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Nyrsio Ysgol
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-NMR423-0524
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan lechyd a Lles y Fflint
Tref
Fflint
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Nyrs Ysgol

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Pwrpas y swydd Bydd gan ddeilydd y swydd gyfrifoldeb proffesiynol am boblogaeth/llwyth achos ddiffiniedig ac arwain darparu rhaglen iechyd cyhoeddus a'i threfnu.

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd SCPHN neu gyfwerth mewn Nyrsio Ysgol gyda chofrestriad cyfredol yr NMC.

Gall myfyrwyr SCPHN a fydd yn cymhwyso ym mis Medi wneud cais.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd gan ddeilydd y swydd gyfrifoldeb proffesiynol am boblogaeth/llwyth achos ddiffiniedig ac arwain darparu rhaglen iechyd cyhoeddus a'i threfnu. Darparu elfennau nyrsio'r rhaglen iechyd ysgol i boblogaeth oed ysgol mewn nifer diffiniedig o ysgolion.

Yn gweithio yn y gymuned, mae'r ymarferydd yn gyfrifol am asesu gofal a gynigir i deuluoedd a sefydliadau allanol, ei gynllunio, ei weithredu a'i ddadansoddi, gyda sylw penodol ar ddiogelu plant.

Bydd yn gyfrifol am gydlynu gwaith a'i ddirprwyo o fewn tîm sydd â chymysgedd sgil.

Mae’r gallu siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

 

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd mewn gofal iechyd SCPHN RGN Lefel 1
  • Nyrs Rhagnodwr
  • Tystiolaeth o CPD i Lefel Diploma Ol-radd
  • Cymhwyster neu brofiad addysgu
Meini prawf dymunol
  • Gradd Meistr
  • Profiad o Reoli

Cymhwyster a Gallu

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio fel ymarferydd unigol
  • Sgiliau arwain a rheoli
  • Sgiliau trefnu ac asesu Meddu ar sgiliau cyflwyno.
  • Cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog.
  • Gallu parchu a gwerthfawrogi cyfraniad eraill
  • Gwybodaeth am ymchwil
Meini prawf dymunol
  • Gallu siarad Cymraeg.
  • Sgiliau TG

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o waith cymuned
  • Profiad o weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol Parodrwydd
  • i ymgymryd a hyfforddiant pellach o ran rol arbenigol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ymgymryd a chlinigau dan arweiniad nyrs
  • Profiad o hyrwyddo ymataliad / wroleg/ gynaecoleg

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y Gallu i deithio rhwng canolfannau mewn modd amserol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Paula Preece
Teitl y swydd
Team Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 859301
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Symudol: 07557197155