Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Oncoleg
Gradd
Band 7
Contract
Cyfnod Penodol: 24 mis
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
120-NMR165-0524
Cyflogwr
Canolfan Ganser Felindre
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Ganser Felindre
Tref
Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
Cyflog
£44,398 - £50,807 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Canolfan Ganser Felindre logo

Arweinydd Tîm Cyfnod Cynnar

Band 7

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

BYDD Atebol
BYDD Feiddgar
BYDD Ofalgar
BYDD Ddeinamig
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.

Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.

 


Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Cytunwyd ar fodel cydweithredol o gyflwyno ymchwil ac mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (VUNHST) wedi cydweithio ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a BioNTech sef cwmni fferyllol, i gyflawni portffolio treialon clinigol BioNTech, sy’n cynnwys therapïau uwch newydd megis astudiaethau brechlyn canser mRNA a Threialon Clinigol imiwnotherapiwtig o Gynhyrchion Meddyginiaethol Ymchwiliol (CTIMPs). 

Bydd y rôl gyffrous hon yn darparu arolygaeth rheoli mewn 2 safle sy’n darparu ymchwil gan reoli tîm medrus iawn sy’n darparu ymchwil newydd blaengar.

I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon mae angen i chi fod yn brofiadol mewn ymchwil glinigol, a bod â sgiliau rheoli profedig. Mae angen i chi ddangos rhinweddau arwain rhagorol, sgiliau cyfathrebu a threfnu a gwybodaeth gynhwysfawr o'r amgylchedd moesegol, ariannol, trefniadol a rheoleiddiol y cyflwynir ymchwil glinigol ynddo.

Mae'r swydd hon am Gyfnod Penodol neu'n Secondiad am hyd at 24 mis, i gwrdd ag anghenion y gwasanaeth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y secondiad, rhaid i chi gael caniatâd eich rheolwr llinell presennol cyn gwneud cais.

Prif ddyletswyddau'r swydd

·     Darparu arolygiaeth rheoli nyrsys i gefnogi darpariaeth therapïau canser newydd gan gynnwys therapïau uwch fel astudiaethau brechlyn canser mRNA a Threialon Clinigol imiwnotherapiwtig eraill. 

·     Rheoli'r treialon o fewn y Tîm Amlddisgyblaethol

·     Goruchwylio, cynghori a datblygu tîm ymchwil.

·     Dirprwyo ar gyfer Band 8a yn eu habsenoldeb.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.

Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth  drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.

Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Cyfathrebu’n gymwys wybodaeth gymhleth am dreialon clinigol penodol a’u canlyniadau, i gleifion a gofalwyr gan sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth dda o’r opsiynau triniaeth, a thrwy hynny sicrhau safonau uchel o gydsyniad ar sail gwybodaeth.

Gweithredu fel y gweithiwr allweddol ar gyfer cleifion yn eich gofal uniongyrchol drwy gydol eu cyfranogiad gweithredol mewn treial clinigol, gan sicrhau bod yr holl gleifion, gofalwyr a chydweithwyr cymunedol priodol â gwybodaeth am eu hafiechyd a sut i'w reoli gan ddarparu gwybodaeth briodol ac amserol.

Gweithio mewn partneriaeth ag ymchwilwyr clinigol ar bob agwedd ar dreial clinigol, gan gynnwys: sefydlu treial, dogfennaeth treial, casglu data, gweinyddu a recriwtio cleifion a chydlynu triniaeth.

Nyrs Gyffredinol Gofrestredig /  Ymarferydd Nyrsio Cyffredinol Cofrestredig gyda thystiolaeth o wybodaeth ddatblygedig iawn mewn oncoleg ac ymchwil glinigol i gynnwys sgiliau arwain a rheoli datblygedig.

Addysg hyd at lefel Meistr neu brofiad neu gymhwyster cyfatebol.

Cymryd cyfrifoldeb personol dros ddysgu gydol oes a datblygiad personol drwy sicrhau goruchwyliaeth glinigol, arfarnu a llunio fframwaith gwybodaeth a sgiliau gan ymgysylltu'n weithredol â chyfleoedd dysgu a datblygu mewn ymateb i wybodaeth a thechnegau newydd.

Gweithio'n annibynnol i reoli llwyth achosion mawr o gleifion sy'n gweithredu fel nyrs broffesiynol i sicrhau dyletswydd gofal i'r claf a'i deulu.

Gallu rhoi barn arbenigol ar greu a chydgysylltu'r portffolio clefydau penodol mewn cydweithrediad â'r Tîm Amlddisgyblaethol.

Dyfarniadau ar roi gwybodaeth ar gyfer astudiaethau sy'n gwrthdaro.

Asesu dichonoldeb cynnal treial yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Cymryd rhan mewn adolygiadau gwasanaeth er mwyn ysgogi a rheoli newid a gwella gwasanaethau o fewn adran gymhleth.

Dylanwadu ar bolisi a chanllawiau clinigol yn fewnol ac yn allanol, a’u datblygu.

Arwain o ran y cyfraniad at ddatblygiad gwasanaeth y cyfnod cynnar gan anelu at ragoriaeth mewn gofal i gleifion ar dreialon.

Gweithio gyda'r Rheolwr Cyflawni Ymchwil a Datblygu, a'r Rheolwr cyllid Ymchwil a Datblygu i asesu effaith ariannol treialon masnachol ac anfasnachol ar yr Ymddiriedolaeth a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Menter Ariannol – Delio â thrafodaethau ariannol a chytundebau cytundebol gyda chwmnïau fferyllol wrth sefydlu treial clinigol.

Mentora staff ymchwil newydd a darparu hyfforddiant yn eich disgyblaeth eich hun a swyddi eraill Band 6 ac is yr Uned Treialon Clinigol yn ôl yr angen.

Rheoli a goruchwylio tîm y cyfnod cynnar.  Gweithredu AGDPau blynyddol.

 

Sicrhau cofrestriad effeithiol parhaus gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a bod yn ymwybodol o God Ymddygiad Proffesiynol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Rhaid i ddeiliad y swydd fod yn atebol am ei arfer ei hun. Gweithio o fewn Cwmpas Ymarfer Proffesiynol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a sicrhau cymhwysedd i gyflawni dyletswyddau fel y’u neilltuwyd.

Bod yn gyfrifol am sefydlu a chydlynu ystod o dreialon canser yn y DU, yn Ewrop ac yn fyd-eang i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ôl yr angen, mewn cydweithrediad â’r timau ymchwil amlddisgyblaethol perthnasol.

Sicrhau, fel unigolyn ac fel arweinydd tîm, bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu gan gynnal diogelwch y claf, a gweithio i Ddangosyddion Perfformiad Allweddol ymchwil cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Gwneud cais am weithdrefnau radiolegol sy’n gysylltiedig â threial

Asesiad clinigol o'r claf.

Defnyddio peiriannau pwysedd gwaed ECG ac offer eraill sydd eu hangen i fonitro'r claf.

Gwybodaeth am y treial therapi gwrth-ganser systemig (SACT).

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs gofrestredig lefel 1af neu gymhwyster gofal iechyd proffesiynol cyfatebol.
  • Gradd Meistr neu brofiad neu gymhwyster cyfatebol.
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Gwybodaeth ymarferol o Ymarfer Clinigol Da a sut y caiff ei gymhwyso yn amgylchedd ymchwil y GIG.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster Ymchwil Clinigol.
  • Cymhwyster addysgu
  • ECDL

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio fel Nyrs Arbenigol.
  • Profiad o ofalu am gleifion o fewn y lleoliad ymchwil.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ofalu am gleifion mewn lleoliad Canser
  • Profiad o dreialon Cyfnod 1.
  • Sgiliau clinigol wrth gyflwyno therapïau cyfnod cynnar newydd.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Sgiliau cyfrifiadura
  • Sgiliau da fel eiriolwr cleifion
  • Sgiliau addysgu a chyflwyno
  • Sgiliau cwnsela
  • Gwybodaeth am y broses ymchwil a gofynion rheoliadol - Ymarfer Clinigol Da a llywodraethu ymchwil.
  • Gwybodaeth am raglen MS Office ac E-bost
  • Yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • Brwdfrydig a llawn cymhelliant
  • Talu sylw i fanylion

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y modd i deithio wrth gyflawni dyletswyddau
  • Agwedd hyblyg at oriau gwaith yn unol ag anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu barodrwydd i weithio tuag at hynny

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Claire Lang
Teitl y swydd
Senior Research Nurse Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
02920 615888