Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Deintyddol
Gradd
Band 5
Contract
Parhaol
Oriau
Mae yna oriau amrywiol rhan amser ar gael
Cyfeirnod y swydd
100-ACS094-0725-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Hafan Derwen
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£30,420 - £37,030 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/07/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Ddeintyddol — Cydgysylltydd Llwybrau Cleifion

Band 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am Nyrs Ddeintyddol frwdfrydig a llawn cymhelliant sy'n gofrestredig gyda'r GDC i ymuno â'n Tîm Gwasanaethau Deintyddol sy'n tyfu, i gefnogi gwaith brysbennu clinigol a blaenoriaethu cleifion deintyddol sy'n defnyddio llwybrau gofal deintyddol amrywiol. 

Bydd deiliad y swydd hefyd yn darparu gwasanaeth nyrsio deintyddol ad hoc ar gyfer clinigau mynediad brys "mewnol" sydd wedi'u trefnu.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys y canlynol: 

  • Bod yn gyfrifol am oruchwylio a chydgysylltu'r tîm o ddydd i ddydd mewn perthynas â gwaith brysbennu clinigol i gleifion mynediad brys, a chyfeirio cleifion â phroblem glinigol frys nad yw'n gysylltiedig â gofal brys, i'r llwybr gofal priodol, gan ddarparu cefnogaeth broffesiynol a chlinigol. 
  • Bod yn gyfrifol am ddarpariaeth brysbennu clinigol Nyrsys Deintyddol ar gyfer cleifion sy'n defnyddio gwasanaeth gofal deintyddol brys y Bwrdd Iechyd a llwybrau arbenigol eraill i gleifion, er mwyn optimeiddio llif cleifion yn seiliedig ar angen ac argaeledd apwyntiadau. 
  • Gweithio'n agos gyda'r Tîm Cymorth Deintyddol i ddyrannu cleifion newydd i'r Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol o'r Porth Mynediad Deintyddol, a defnyddio sgiliau a phrofiad clinigol i roi cyngor ar uwchgyfeirio cleifion o'r rhestr ar sail anghenion clinigol. 
  • Darparu adroddiadau misol ar y defnydd o'r gwasanaeth gofal deintyddol brys, cyflawni targedau mynediad, a'r Porth Mynediad Deintyddol. 
  • Darparu cefnogaeth nyrs ddeintyddol i glinigau mynediad brys y Bwrdd Iechyd. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

 

Cynhelir y cyfweliadau ar 06/08/2025.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Ddeintyddol gymwys neu gymhwysedd amlwg trwy brofiad cyfatebol/gymhwyster lefel diploma yr NEB
  • Gwybodaeth am weithdrefnau rheoli hyd at lefel gradd neu lefel gyfatebol
  • Cofrestriad Cyfredol gyda'r GDC
  • Gwybodaeth am Lywodraethu Clinigol ac Archwilio Clinigol
Meini prawf dymunol
  • Tystysgrif Addysg Iechyd y Geg gydnabyddedig
  • Farnais Fflworid

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddarparu gwasanaeth brysbennu clinigol i gefnogi mynediad amserol at ofal brys
  • Nyrsio deintyddol wrth y gadair
  • Casglu data ac adrodd
Meini prawf dymunol
  • Defnyddio systemau data Adastra, Compass, eDEN, R4

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio i gyfleusterau gofal iechyd eraill yn ardal Hywel Dda mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Joanna Cloke
Teitl y swydd
Senior Primary Care Manager - Dental
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
0300 303 8322