Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Bydwreigiaeth
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR153-0525-B
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tîm Tair Sir
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 29/07/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 07/08/2025
Teitl cyflogwr

Bydwraig
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i Fydwraig weithio yn Nhîm Cymunedol y Tair Sir, a fyddai'n cynnwys ardaloedd Crymych, Aberteifi, Castellnewydd Emlyn, Llandysul, Llanybydder a Llanbedr Pont Steffan, gan ddarparu pob agwedd ar ofal Bydwreigiaeth i fenywod a'u teuluoedd yng nghymuned y Gymru wledig.
Mae'r Tîm yn hynod gefnogol ac yn galonogol o'i gilydd gan alluogi ei gilydd i ddatblygu a symud ymlaen yn eu rolau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn allweddol wrth ddarparu a chynyddu Gofal dan Arweiniad Bydwragedd a hybu geni yn y cartref, yn ogystal â chefnogi'r Uned Gofal dan Arweiniad Bydwragedd yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin.
Byddwch hefyd yn gydlynydd gofal ar gyfer beichiogrwydd risg uchel, gan weithio'n agos gyda'r timau amlddisgyblaethol i sicrhau gwasanaeth di-dor o ansawdd uchel.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 07/08/2025.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro ·
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
‘Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.’
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Bydwraig Gofrestredig gyda chofrestriad llawn gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Portffolio Datblygiad Proffesiynol Parhaus
- Wedi cwblhau rhaglen breceptoriaeth gymeradwy
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o fentora a datblygu staff
- Sgiliau TG sylfaenol
- Yn gallu darparu gofal o safon uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gleientiaid unigol
- Cyfathrebwr effeithiol sydd â sgiliau arwain a rhyngbersonol da
- Tystiolaeth o'r gallu i gymryd yr awenau yn absenoldeb eich rheolwr llinell uniongyrchol
- Yn amlygu sgiliau bydwreigiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth gyfredol
- Yn amlygu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd archwilio a pholisi
Meini prawf dymunol
- Obstetreg Cynnal Bywyd Datblygedig – ALSO
- Cynnal Bywyd Datblygedig Newyddenedigol – NALS
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lynn Smith-Hurley
- Teitl y swydd
- Clinical and Operational Lead Midwife
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07795 642203
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth