Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Oncoleg
Gradd
Band 6
Contract
Cyfnod Penodol: 24 mis
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
120-NMR166-0524
Cyflogwr
Canolfan Ganser Felindre
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Ganser Felindre
Tref
Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Canolfan Ganser Felindre logo

Nyrs Ymchwil – Cyfnod Cynnar

Band 6

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

BYDD Atebol
BYDD Feiddgar
BYDD Ofalgar
BYDD Ddeinamig
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.

Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.

 


Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Cytunwyd ar fodel cydweithredol o gyflwyno ymchwil ac mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (VUNHST) wedi cydweithio ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a BioNTech sef cwmni fferyllol, i gyflawni portffolio treialon clinigol BioNTech, sy’n cynnwys uwch therapïau newydd megis astudiaethau brechlyn canser mRNA a Threialon Clinigol imiwnotherapiwtig o Gynhyrchion Meddyginiaethol Ymchwiliol (CTIMPs). 

Mae gennym gyfle cyffrous i Nyrs Ymchwil ymuno â'n Tîm sy'n ehangu i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r treialon canser newydd ac arloesol hyn

Mae'r swydd hon yn cynnwys bod yn rhan o dyfu a datblygu portffolio astudiaeth ymchwil o dreialon clinigol canser sy’n benodol i safle ac ymchwil drosi, gan gydweithio â chydweithwyr ymchwil ar draws y bartneriaeth. 

I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon mae angen i chi fod yn frwdfrydig, yn flaengar ac yn gyfathrebwr rhagorol a hefyd mwynhau bod yn rhan o dîm deinamig sy'n gyrru cyfleoedd ymchwil o ansawdd uchel yn eu blaenau i gleifion. 

Mae'r swydd hon am Gyfnod Penodol neu'n Secondiad am hyd at 24 mis, i gwrdd ag anghenion y gwasanaeth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y secondiad, rhaid i chi gael caniatâd eich rheolwr llinell presennol cyn gwneud cais.

Prif ddyletswyddau'r swydd

·         Cydlynu'r gwaith o gyflwyno'r treialon portffolio cyfnod cynnar dan oruchwyliaeth Arweinydd Tîm Nyrsio Cyfnod Cynnar.

·         Bydd yn gyfrifol am gydlynu a gweithredu protocolau ymchwil.

·         Hyrwyddo treialon clinigol a chreu ymwybyddiaeth o Uned Treialon Clinigol Felindre a hybu ymwybyddiaeth o bortffolio cyfnod cynnar a gweithgarwch De-ddwyrain Cymru.

·         Dirprwyo ar gyfer Arweinydd Tîm Band 7 yn ei absenoldeb.

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.

Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth  drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.

Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Cyfathrebu

Darparu gwybodaeth a chymorth i gleifion canser sy'n ystyried cymryd rhan mewn treial clinigol cyfnod cynnar.

Disgrifio ac esbonio gwybodaeth treialon cymhleth yn ysgrifenedig ac ar lafar i gleifion a'u gofalwyr.

Disgrifio ac egluro gwybodaeth gymhleth i staff meddygol, gweithwyr iechyd proffesiynol a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

Negodi logisteg cynnal treial clinigol gydag adrannau eraill, gan gynnwys ar draws 2 safle ymchwil, dan oruchwyliaeth arweinydd tîm.

Rhoi cyflwyniad ffurfiol ac anffurfiol i gleifion, gofalwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol a sefydliadau ymchwil, gan godi ymwybyddiaeth o dreialon clinigol.

Cyfathrebu â swyddfeydd treialon eraill a sefydliadau allanol yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Sgiliau cyfrifiadurol, gwybodaeth am raglen MS Office ac E-bost.

 

Sgiliau Clinigol

Nyrs gofrestredig lefel 1af neu gymhwyster gofal iechyd proffesiynol cyfatebol.

Gweithiwr iechyd proffesiynol gyda phrofiad ar Fand cyflog 5 mewn oncoleg ac ymchwil.

Gwybodaeth ardderchog o derminoleg canser a ddatblygwyd trwy brofiad.

Cadw at Arferion Clinigol Da (GCP) o ddydd i ddydd.

Cadw at y fframwaith llywodraethu ymchwil o ddydd i ddydd

Tystiolaeth o addysg ôl-sylfaenol.

Mynediad mewnwythiennol IV (canwleiddio, PICCs, Llinellau Hickman a PORTS) a sgiliau gwythïen-bigo gan gynnwys ANTT.

Sgiliau triniaeth frys gan gynnwys trin anaffylacsis ac argyfyngau meddygol eraill neu barodrwydd i ddysgu’r sgiliau hyn.

Defnyddio peiriannau ECG, peiriannau pwysedd gwaed ac offer arall a monitro cleifion, gan gynnwys monitro mewnwthiol.

Gweinyddu triniaethau gwrthganser systemig (cwblhau hyfforddiant SACT)

Gweinyddu cyffuriau treial therapi newydd.

Yn gallu adnabod digwyddiadau andwyol posibl ac uwchgyfeirio'n briodol mewn modd amserol. 

Sgrinio cleifion i asesu cymhwysedd ar gyfer mynediad i astudiaeth, yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun.

Yn gallu rhoi barn arbenigol fel eiriolwr cleifion.

Prosesu samplau biolegol (PK/PD/Biofarcwyr ac ati) yn unol â'r protocol, gan ddefnyddio technegau ar gyfer ynysu serwm, plasma ac ynysu lymffocytau gwaed ymylol.

Paratoi pob sampl ar gyfer ei storio neu ei  gludo a sicrhau asesiad risg priodol, cydymffurfio â chanllawiau Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd a chynnal a chadw offer labordy priodol, cyflenwadau a sbesimenau.

Gofalu am gleifion sy'n ddifrifol wael, os bydd digwyddiad anffafriol difrifol sy'n gofyn am gyfeirio'r gofal i Uned Dibyniaeth Fawr/Uned Gofal Dwys.

Cynorthwyo gyda phrofion clinigol lle mae'r rhain yn brotocol-benodol.

 

Rheoli Gwasanaethau

Cydlynu ymweliadau ar gyfer archwilio a monitro gwaith gan sefydliadau ymchwil ac archwilwyr allanol.

Gwybodaeth am sut i gyflwyno astudiaethau a diwygiadau ar gyfer cymeradwyaethau gofynnol yn unol ag arfer clinigol da, Llywodraethu Ymchwil a gofynion rheoleiddio eraill.

Blaenoriaethu llwyth gwaith pan fydd ymyriadau aml.

Trefnu cyfarfodydd i gychwyn astudiaethau newydd.

Cynllunio, cysylltu a chynnal trafodaethau gyda chleifion/ gofalwyr.

Cydgysylltu â monitoriaid treialon o sefydliadau ymchwil i gynorthwyo gyda swyddogaethau monitro.

Yn gallu bod yn hyblyg a chyflenwi ar gyfer aelodau eraill y tîm fel sy’n      ofynnol, gan gynnwys gwasanaeth traws-safle yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Cynllunio ar gyfer yr effaith y bydd treial clinigol newydd yn ei chael ar adrannau amrywiol yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Cynllunio cyflwyniad a chynnwys rhaglenni addysgol, gyda chefnogaeth Band 7.

Yn gallu asesu protocolau ar gyfer materion adnoddau yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Cofrestru cleifion i dreialon clinigol.  Sicrhau bod dogfennaeth gywir yn cael ei chadw yng nghofnodion cleifion.

Cydgysylltu â chynorthwyydd ymchwil ac yn ei absenoldeb, proses samplau yn y labordy PK/PD, gan ddefnyddio technegau ar gyfer ynysu serwm, plasma ac ynysu lymffocytau gwaed ymylol. 

Dyfarniad ar roi gwybodaeth ar gyfer astudiaethau sy'n gwrthdaro.

Helpu i asesu dichonoldeb cynnal treialon cymhleth.

 

Ymdrech ac Amgylcheddol (amodau gwaith ffisegol, emosiynol a meddyliol)

Defnyddio peiriannau ECG ac offer monitro cleifion eraill.

Defnyddio cyfrifiaduron yn ddyddiol ac am gyfnodau estynedig.

Gweinyddu cyffuriau treialon.

Rhoi cymorth i gleifion, gofalwyr ac aelodau eraill o'r tîm wrth gyflwyno newyddion drwg.

 

Ansawdd

Cyngor ac addysg i gleifion a gofalwyr mewn perthynas â phroses eu clefyd, rheoli sgîl-effeithiau a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt.

Sicrhau bod nodiadau achos yn cael eu holrhain wrth ddod i mewn ac allan o'r uned.

Cymryd rhan mewn darparu cyngor clinigol i gleifion a gofalwyr.

Cyfrifol am gydlynu holl weithdrefnau treialon clinigol cleifion.

Asesu addasrwydd cleifion ar gyfer mynediad i astudiaethau ymchwil.

Asesu anghenion gofal clinigol cleifion gan drosglwyddo gwybodaeth berthnasol i Ymgynghorwyr.

Gweithio mewn cysylltiad agos â nyrsys ymchwil eraill ar draws 2 safle ymchwil i hyrwyddo gwaith tîm.

Gweinyddu dyddiaduron a holiaduron ansawdd bywyd i gleifion, rhoi cyfarwyddyd a’u casglu’n ddiweddarach.

Chwarae rhan allweddol yn y broses o roi caniatâd gwybodus gan gynnwys:

·       Darparu'r daflen Wybodaeth Cleifion gymeradwy gyfredol.

·       Egluro gweithdrefnau’r astudiaeth, y driniaeth a’r derminoleg ymchwil, mewn ffordd ddealladwy.

·       Egluro’r risgiau a'r manteision sy'n gysylltiedig â chymryd rhan yn y treial clinigol, gan gynnwys y driniaeth, y gweithdrefnau, yr amser ac unrhyw anghyfleustra y gallai achosi.

·       Cynnwys teulu/gofalwyr y claf fel y bo'n briodol.

·       Egluro hawliau cleifion mewn lleoliad ymchwil.

·       Darparu gwybodaeth gyswllt i alluogi cleifion i ofyn cwestiynau a thrafod opsiynau.

Asesu dealltwriaeth cleifion a'u gallu i gydsynio.  Cydgysylltu â'r ymchwilydd a gweithredu fel eiriolwr cleifion bob amser.

Cefnogi cleifion trwy newyddion am eu cyflwr a sgil-effeithiau triniaeth.

Bod yn gyswllt cyntaf i gleifion a pherthnasau sydd â phryderon neu gwestiynau pan fyddant gartref. 

Gweithredu fel prif gyswllt ac adnodd parhaus trwy gydol yr ymyriad astudio a'r dilyniant. 

Darparu cefnogaeth, gwybodaeth a chyswllt hawdd trwy blîp, ffôn a chyfathrebu rheolaidd. 

Atgyfeirio fel y bo’n briodol, gan gysylltu â gofal sylfaenol a lleoliadau eraill yn ôl yr angen.

Cydlynu a gweinyddu cyffuriau ar gyfer therapïau cyfnod cynnar fel y bo’n briodol gan gynnwys therapi na roddwyd i bobl o'r blaen.

Sicrhau’r diogelwch gorau i gleifion trwy hwyluso cydymffurfiaeth â phrotocolau, monitro Digwyddiadau Niweidiol a Digwyddiadau Niweidiol Difrifol, adrodd yn amserol i'r Prif Ymchwilydd a noddwr yr astudiaeth fel y bo'n briodol.

Cyngor ac addysg i gleifion a gofalwyr mewn perthynas â phroses eu clefyd, rheoli sgîl-effeithiau a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt.

 

Gwella Gwasanaethau

Cadw at Weithdrefnau Gweithredol Safonol (SOP) yr Uned Treialon Clinigol a pholisïau'r Ymddiriedolaeth heb oruchwyliaeth.

Yn gyfrifol am ddiweddariadau i’w Gweithdrefnau Gweithredol Safonol (SOP) ac am hyfforddiant dilynol i staff yn unol â newidiadau lleol, cenedlaethol a deddfwriaethol.

Cynnal a rhoi gweithdrefnau gweithredu safonol ar waith yn eich maes arbenigol.

Adolygu polisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â chynnal treialon clinigol yn rheolaidd.

Cadw at bolisi a gweithdrefnau unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol yn Ne Ddwyrain Cymru lle gellir bod â chontract anrhydeddus.

 

 

 

Cyllid ac Adnoddau

Asesu goblygiadau cost astudiaeth a bod â’r gallu i agor trafodaethau ariannol a chytundebau cytundebol gyda chwmnïau fferyllol, dan oruchwyliaeth Arweinydd y Tîm.

Asesu goblygiadau cost astudiaethau cyfnod cynnar masnachol ac anfasnachol o dan oruchwyliaeth yr Arweinydd Tîm.

Nodi’r goblygiadau o ran adnoddau ffisegol o fewn yr adrannau y mae’r treial yn effeithio arnynt, dan oruchwyliaeth Arweinydd y Tîm,

 

Prosesu Gwybodaeth

Bod yn gyfrifol am gwblhau, cynnal a chadw copïau caled a ffurflenni adrodd achos electronig sy'n cynnwys holl ddata treialon clinigol yn unol â deddfwriaeth arfer clinigol da.

Gallu derbyn, trin, dadansoddi a datrys ymholiadau yn brydlon.

 

Cyfrifoldeb am Ymchwil a Datblygu

Cynorthwyo arweinydd y tîm i ddechrau a chydlynu ystod o dreialon canser cyfnod cynnar yn y DU, Ewrop ac yn Fyd Eang ar gyfer Canolfan Ganser Felindre, mewn cydweithrediad â’r timau ymchwil amlddisgyblaethol perthnasol.

Yn gyfrifol am gydlynu a gweithredu protocolau ymchwil.

Cynorthwyo a goruchwylio wrth baratoi cyflwyniadau i bwyllgorau priodol, ymchwil a datblygu a chyrff eraill i'w cymeradwyo, gan weithio mewn partneriaeth ag Arweinydd y Tîm a gweinyddwr y treial.

Hyrwyddo treialon clinigol a chreu ymwybyddiaeth o Uned Treialon Clinigol Felindre a Rhwydwaith Ymchwil Canser Cymru ymhlith y GIG, a hyrwyddo ymwybyddiaeth o bortffolio cyfnod cynnar a gweithgarwch De-ddwyrain Cymru.

Yn gyfrifol am gasglu data cymhleth a chywir.

 

 

 

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig Lefel1af gyda thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
  • Cymhwyster ôl-sylfaenol mewn gofal canser / ymchwil neu barodrwydd i weithio tuag ato.
  • Cymhwyster Graddedig neu barodrwydd i weithio tuag ato.
  • Gwybodaeth am y broses ymchwil a gofynion rheoleiddiol e.e. ICH-GCP
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster Ymchwil Clinigol
  • Cymhwyster addysgu
  • ECDL

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ym Mand 5, gyda phrofiad mewn Oncoleg
  • Profiad o dreialu clinigol blaenorol
Meini prawf dymunol
  • Profiad treialu Cam I/II
  • Profiad Uned Therapi Dwys / Uned Dibyniaeth Uchel

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau tynnu gwaed/gosod canwla
  • Yn gallu gweithio ar ei liwt ei hun
  • Sgiliau trefnu
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Sgiliau da fel eiriolwr cleifion
  • Sgiliau TG – gallu defnyddio WORD, y Rhyngrwyd ac E-bost
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau cwnsela
  • Sgiliau Addysgu a Chyflwyno
  • Gweinyddu Triniaeth Gwrth-ganser Systemig (SACT)

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu teithio er mwyn cyflawni dyletswyddau
  • Agwedd hyblyg at oriau gwaith yn unol ag anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu barodrwydd i weithio tuag ato

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Claire Lang
Teitl y swydd
Senior Research Nurse Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
02920 615888