Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo
Cyfeiriad
Powys Teaching Health Board
HR Operations
Hafren Ward
Bronllys Hospital
Bronllys
Brecon
LD3 0LU
Rhif ffôn
01874 712580

Croeso i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys!

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am ddiwallu anghenion iechyd a llesiant pobl Powys yng nghanolbarth Cymru. Fel bwrdd iechyd gwledig gydag oddeutu 133,000 o bobl yn byw ledled ardal sydd chwarter maint Cymru, rydym yn darparu cynifer o wasanaethau â phosibl yn lleol.  Gwneir hyn yn bennaf trwy feddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, ysbytai cymunedol a gwasanaethau cymunedol.  Gan nad oes gennym Ysbyty Cyffredinol Dosbarth, rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill yng Nghymru a Lloegr i ddarparu gwasanaethau i bobl Powys. Rydym bob tro yn ymdrechu i ddarparu cynifer o wasanaethau â phosibl ym Mhowys gan gynnwys asesiadau a’r camau dilynol ar ôl triniaeth. Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Powys a’r sector gwirfoddol i ddiwallu anghenion y gymuned.

Bywyd ym Mhowys

Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru ac mae’r golygfeydd mawreddog yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo gydag Eryri i’r gogledd a’r Bannau Brycheiniog i’r de.  Beth am fanteisio ar yr awyr agored, cerdded, rhedeg, canŵio, dringo, beicio neu hyd yn oed  eich tyddyn eich hun?  Mae Powys yn faes chwarae enfawr sy’n aros i chi ei darganfod.

Mae Powys yn cynnig llawer o weithgareddau awyr agored, mae ei chelfyddydau creadigol yn ffynnu, mae ei golygfeydd hyfryd yn denu ysgrifenwyr ac artistiaid ac mae mwy o wyliau cerddorol, digwyddiadau celfyddydol a nifer o sioeau amaethyddol yn cael eu cynnal ledled y sir bob haf. Cynhelir gŵyl lenyddol fyd-enwog bob mis Mai yn y Gelli Gandryll ac yma ym Mhowys y cynhelir Sioe Frenhinol Cymru yn ogystal â Gŵyl y Dyn Gwyrdd a Gŵyl Gregynog. Mae rhywbeth at ddant pawb mewn gwirionedd!

Mae’r Fenni yn cynnal gŵyl fwyd flynyddol ym mis Medi ac mae Llwydlo ar ein stepen drws. Gyda rheswm da, mae trigolion Powys yn falch o’u cynnyrch lleol sydd wedi ennill gwobrau, gan gynnwys cig organig Graig Farm, hufen ia Llanfaes Dairy a chwrw Monty’s Brewery.”

Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth, Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector