Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Teitl cyflogwr

Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan logo
Cyfeiriad
Ely Valley Road
Talbot Green
Pontyclun
Glamorgan
CF72 9WB
Rhif ffôn
01443 848631/3

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn rhan o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac yn gwasanaethu Cymru.  Rydym yn casglu rhoddion gwaed gwirfoddol a heb dâl gan y cyhoedd ledled Cymru.  Mae’r rhoddion hyn yn cael eu prosesu a’u profi cyn cael eu dosbarthu i ysbytai lle maent yn helpu gyda gofal cleifion. Mae hefyd gennym gynhyrchion sy’n deillio o waed (y GIG a Masnachol) i’w prynu gan ein hysbytai sy’n gwsmeriaid.

Rydym yn darparu gwasanaeth sgrinio cyn-geni i sawl ysbyty ac yn cynnig gwasanaethau cyfeirio labordai i’r holl ysbytai sy’n gwsmeriaid i ni er mwyn cynorthwyo gydag ymchwilio i broblemau serolegol cymhleth.  Mae Labordy Trawsblannu ac Imiwnogenetig Cymru yn rhan o Wasanaeth Gwaed Cymru ac yn darparu cefnogaeth uniongyrchol i ddarparwyr lleol o Wasanaethau Trawsblannu Arennol a Bôn-gelloedd. Mae hefyd yn cynnal Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, sef panel cenedlaethol o roddwyr bôn-gelloedd gwaed posibl, nad ydynt yn perthyn. Darperir cymorth Ymgynghorydd Meddygol i Bwyllgorau Trallwyso Gwaed Ysbytai sy'n cynnwys cymorth i gyflawni amcanion Cylchlythyr Iechyd Cymru (2002) 137 Trallwysiad Gwaed Gwell. Darperir cyngor clinigol i ysbytai sy’n gwsmeriaid yn ôl yr angen.

Rydym yn cyfrannu at gynnal safonau ansawdd yn y gymuned trallwyso a thrawsblannu trwy gynnal cynllun asesu ansawdd allanol UK NEQAS ar gyfer Histogydnawsedd ac Imiwnogeneteg a'r Cynllun Asesiad Hyfedredd Serolegol Cymru (WASPS)

Cefnogir Cyfarwyddwr Isadrannol Gwasanaeth Gwaed Cymru gan Uwch Dîm Rheoli. Mae Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn cytuno ar amcanion strategol ac yn monitro perfformiad gweithredol ac ariannol. Mae Llywodraeth Cymru yn goruchwylio’r hyn y mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ei wneud.  Rydym wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o ran ansawdd ac effeithlonrwydd ac mae gennym Achrediad Patholeg Glinigol (CPA).  Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi’i awdurdodi a’i drwyddedu gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, sy'n archwilio'r sefydliad ar gyfnodau penodol.

Rhestr swyddi gyda Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan yn Nyrsio a bydwreigiaeth