Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Rheoli Poen
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Cyfnod Penodol: 12 mis (Cyfnod mamolaeth, dyddiad diweddu 06/02/2027)
- Oriau
- Rhan-amser - 18 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR877-1225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Abergele
- Tref
- Abergele
- Cyflog
- £48,527 - £55,532 per annum, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 04/01/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Nyrs Glinigol Arbenigol, Gwasanaeth Rheoli Poen Parhaus.
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Nyrs Glinigol Arbenigol, Rheoli Poen Parhaus, Band 7, Swydd Cyfnod Mamolaeth, 18awr (dyddiad diweddu 06/02/2027), yr wythnos pro rata.
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Nyrs Glinigol Arbenigol Band 7 o fewn Gwasanaeth Rheoli Poen Parhaus Ardal Ganolog BIPBC. Bydd y swydd yn cael ei lleoli yn Ysbyty Abergele, fodd bynnag, bydd gofyn i ddeilydd y swydd gynnal clinigau mewn safleoedd eraill ar draws gwasanaeth canolog, gan gynnwys Y Rhyl a Glannau Dyfrdwy.
Rydym yn dymuno penodi nyrs hynod brofiadol, gyda phrofiad o Reoli Poen Parhaus, i weithredu fel adnodd arbenigol tra’n hwyluso datblygiad y Gwasanaeth Poen Parhaus. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gofal a gwybodaeth arbenigol i gleifion sy’n profi Poen Parhaus o fewn lleoliad Cleifion Allanol. Bydd disgwyl iddynt weithio yn annibynnol gyda llwyth achosion unigol yn ogystal â gweithio ar y cyd o fewn tîm amlddisgyblaethol bach a chyfeillgar, gan gynnwys Ymgynghorwyr Poen, Seicolegwyr, Ffisiotherapydd a Therapyddion Galwedigaethol. Byddai profiad o weithio gyda grŵp yn fuddiol. Mae’r swydd yn cynnig cyfle heriol a boddhaol i ddeilydd y swydd i ddatblygu Datblygiad Proffesiynol Parhaus gyda chymorth a hyfforddiant gan y tîm amlddisgyblaethol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn Glinigol:
Yn ofynnol i: Gwasanaethu fel adnodd arbenigol ymgynghorol ar gyfer rheoli Poen Parhaus a chydweithio â holl aelodau'r tîm gofal iechyd yn yr ymddiriedolaeth a'r tîm gofal iechyd sylfaenol.
Cyfarthrebu:
Gofynnol i: Datblygu strategaethau ar gyfer cyfathrebu effeithiol sy’n galluogi cydweithio rhyngddisgyblaethol, hyd yn oed wrth ymdrin â gwybodaeth hynod gymhleth, a rheoli rhwystrau sylweddol yn effeithiol.
Ymchwil
Bydd deiliad y swydd yn: Arwain, goruchwylio a darparu cymorth ar gyfer archwiliadau amlddisgyblaethol ym maes rheoli Poen Cronig.
Addysg
Gofynnol i : Addysgu cleifion (a'u teuluoedd) ar sut i reoli poen a thechnegau ar gyfer rheoli poen bob dydd.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol ym maes Poen Cronig neu faes clinigol cysylltiedig yn arwyddocaol.
- Profiad o addysgu ac asesu.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn swydd arwain o fewn gwasanaeth poen,
- Sgiliau cwnsela neu hyfforddiant mewn therapïau cymeradwy eraill
- Profiad o weithio mewn grŵp.
Sgiliau a Doniau
Meini prawf hanfodol
- Safon uchel o sgiliau cyfarthrebu, trefnu a sgiliau beirniadu.
- Gallu i weithio yn annibynol.
- Sgiliau clinigol arbennig rheoli Poen Parhaus.
- Cymhwysedd IT (prosesu geiriau / rhyngrwyd / prosesu data)
Meini prawf dymunol
- Dawn i addysgu ar lefel ol-raddio a darparu goruchwyliaeth clinigol.
- Y gallu i siarad Cymraeg.
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Ymarferydd hynod frwdfrydig ac ymroddedig.
- Ansawdd i arwain, Yn chwaraewr tîm, cydweithredol, yn broffesiynol, yn hyderus a gofalus.
Meini prawf dymunol
- Arweinydd a gweithiwr tîm aml-ddisgyblaethol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Mae angen parodrwydd a'r gallu astudio ar lefel Meistr.
- Gallu i drafeilio rhwng gwahanol leoliadau fel bo angen
- Hyblygrwydd: efallai y bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio mewn sawl lleoliad ar draws BIPBC – Canolog.
Cymwysterau a/neu Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestru gyda CNB y DU,
- Gradd mewn nyrsio/Iechyd a gofal cymdeithasol,
- Cymhwyster addysgu/asesu,
- Ymrwymiad i astudio ar lefel Meistr,
- Gwybodaeth am agweddau damcaniaethol ac ymarferol Poen Parhaus,
- Prawf o hyfforddiant ac astudiaeth mewn Rheoli Poen,
- Y gallu i gyfrannu at archwilio ac ymchwil.
Meini prawf dymunol
- Gradd Meistr mewn Rheoli Poen neu Gymhwyster Rheoli Ymarfer Uwch
- Gymhwyster Rheoli
- Chymhwyster i ragnodi.
- Tystiolaeth o astudio neu feddu ar gymhwyster tebyg mewn Ymyriadau Rheoli Poen, fel Aciwbigo, TENS, Tai Chi, neu Ioga.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ian price
- Teitl y swydd
- Clinical Nurse Specialist / Nurse Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850062
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth






.png)
