Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Diabetes ac Endocrinaidd
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-NMR742-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£31,516 - £38,364 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
10/11/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Nyrs Gofresteddig

Gradd 5

Trosolwg o'r swydd

Sylwch ar gyfer myfyrwyr Cymru, rhaid i chi wneud cais trwy Symleiddio lle gellir dod o hyd i’r holl swyddi sydd ar gael.

Mae cyfle wedi codi ar gyfer Nyrs Cofrestredig Band 5 Llawn Amser – Parhaol ar Ward 10, Ysbyty Glan Clwyd.

Mae Ward 10 yn ward sydd a 24 o welyau gyda dwy arbenigedd. Yn arbenigo mewn Diabetes ac Endocrinoleg a Meddygaeth Anadlol. Mae'r Ward yn darparu gofal i 8 o gleifion anadlol gyda amryw o gyflwr gan gynnwys rheoli ocsigen, COPD a therapi awyru cartref. Mae'r Ward hefyd hefo 16 o welyau arbenigol ar gyfer Diabetes lle rydym yn darparu gofal i gleifion gan gynnwys DKA, VRII, therapy antibiotig tymor hir a rheoli clwyf cymhleth.

Er mwyn sicrhau gofal rhagorol i gleifion ar ein Ward mae gennym gefnogaeth fawr gan y tim aml-ddisgyblaethol ehangach, gan cynnwys Orthopedeg, Fasgwlaidd Podiatreg, Hyfywedd meinwe, Therapiau a Nyrsys arbenigol gan cynnwys Nyrsys Anadol, Ocsigen a Diabetes, felly mae llawer o gyfleuoedd hyfforddi i gael. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon; Croeso i  siaradwyr Saesneg a/neu Gymraeg i ymgeisio yn gyfartal.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn chwilio am Nyrs uchel ei chymhelliant a brwdfrydig sydd â phrofiad o ofal iechyd ac sy'n awyddus i gynorthwyo i ddatblygu'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol. Mae hon yn rôl heriol sy'n gofyn am ymrwymiad ac agwedd gadarnhaol tuag at newid. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol a safonau clinigol uchel gydag angerdd i wneud gwahaniaeth i gleifion a staff fel ei gilydd.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i gefnogi cleifion, rhai ag anghenion  cymhleth yn ystod eu harhosiad yn yr ysbyty. Bydd angen i ymgeiswyr allu dangos gofal a thosturi wrth ddarparu cymorth a gofal i gleifion.

Byddwch yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu ac gwerthuso gofal nyrsio wedi'i sylfaenu ar dystiolaeth, gan weithio'n gydweithredol ac yn gydweithgar gyda phobl eraill i ddiwallu anghenion cleifion a'u teuluoedd.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rachael Rutter
Teitl y swydd
Ward Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 844258
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg