Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gofal wedi'i Drefnu
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Gwaith shifftiau i gynnwys shifft nos, penwythnosau a gwyliau cyhoeddus)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS689-0826
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Glan Clwyd Hospital
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £26,300 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 24/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Ngymru
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Gweithio fel rhan o'r tîm aml-ddisgyblaethol sy'n darparu gofal i gleifion gyda chefnogaeth a goruchwyliaeth gan weithwyr gofal iechyd cofrestredig.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gweithio fel rhan o'r tîm aml-ddisgyblaethol sy'n darparu gofal i gleifion gyda chefnogaeth a goruchwyliaeth gan weithwyr gofal iechyd cofrestredig.
Ymgymryd â gweithgareddau a dasgau gofal personol fel y neilltuwyd gan weithwyr gofal iechyd cofrestredig, yn unol â Chanllawiau HEIW Cymru Gyfan ar Neilltuo.
Sicrhau bod y gweithwyr gofal iechyd cofrestredig yn cael eu hysbysu'n rheolaidd am gyflwr y claf/cyfranogwr a'i welliant/dirywiad.
Cynnal safonau uchel o lanweithdra yn y gosodiad gofal iechyd a chadw stoc nwyddau'n briodol.
· Darparu'r rôl yn unol â Gwerthoedd y Bwrdd Iechyd/Y Ymddiriedolaeth a'r Cod Ymddygiad i HCSW’s yng Nghymru
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm wrth y dogfennau ategol, neu cliciwch ar "Apply now" i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Essential
Meini prawf hanfodol
- Lefel 2 mewn gofal neu yn gallu ymgymryd a chyfnod ymsefydlu a hyfforddiant yn y swydd a fydd yn cynnwys gwybodaeth ddamcaniaethol am ofal ac ystod o weithdrefnau cysylltiedig a gwaith, er engraifft cwblhau llyfr gwaith seiledig ar gymhwysedd sy'n cyfateb i galwedigaethol Lefel 2
- Profiad o weithio fel rhan o dim
- Sgiliau cyfarthrebu da - ar lafar ac yn ysgrifedig, gyda'r gallu i gyfleu gwybodaeth yn glir ag yn sensitif
- Yn gallu aros yn bwyllog mewn sefyllfaoedd sy'n achosi straen
- Yn gallu dangos agwedd ofalgar a thosturiol
- Sgiliau trefnu, gyda'r gallu i gynllinio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun yn effeithlon
- Sgiliau trefnu, gyda'r gallu i gynlunio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun yn effeithlon
- Yn gallu defnyddio technoleg i ymgymryd a'r ol er engraifft Microsoft Office, e-bost, Teams ac ati.
- Cliriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) gan gynnwys geiriad Rhestr Gwaharddedig Oedolion a Phlant
- Yn gallu gweithio amrywiaeth o batrymau sifft
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster galwedigaethol Lefel 2 mewn pwnc perthnasol sy'n ymwneud a gofal iechyd
- Profiad blaenorol o weithio gyda phobl mewn rol gofalu
- Gallu corfforol i gyflawni dyletswyddau'r rol gan gynnwys codi, cynothrwyo gyda symydedd, a chyflawni tasgau llaw eraill
Dymunol
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio fel ran o dim
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Katie Murton
- Teitl y swydd
- Theatre Team Leader PACU
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 845583
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth






.png)
