Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- CAMHS
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol: Dydd Llun - Dydd Gwener
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR109-0226
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Swyddfa Penrallt
- Tref
- Caernarfon
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 04/03/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Un Pwynt Mynediad i CAMHS
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Ymarferydd (Band 6) Un Pwynt Mynediad i’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobol Ifanc, yng Ngwynedd a Mon ; sy’n unigolyn medrus, tosturiol ac wedi’i selio ar werthoedd, i ymuno a’n tim Ymyrraeth Gynnar.
Yn y rol hon byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sgrinio, brysbennu ac asessu atgyfeiriadau, gan sicrhau bod plant, pobol ifanc, teuluoedd/gofalwyr yn derbyn y cymorth cywir ar yr adeg cywir. Mae’r swydd yn seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd fframwaith NYTH NEST framework (mental health and wellbeing): introduction | GOV.WALESac yn wybyddus o drawma ym mhob agwedd o’r gwaith.
Yn y rol yma cynnigir goruchwyliaeth reolaidd, cyfleoedd datblygiad proffesiynol (er enghraifft ‘Diploma Trauma Informed Schools and Communities’) a’r cyfle i fod yn rhan o dim cefnogol a blaengar.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol i’r swydd hon.
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch a Elin Sanderson; [email protected] neu 03000 850037.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gweithio yn unol â deddfwriaethau a nodir ym Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Cyfrannu at gynnal a hwyluso Pwynt Mynediad CAMHS.
Sgrinio, brysbennu ac asessu atgyfeiriadau, gan sicrhau bod plant, pobol ifanc, teuluoedd/gofalwyr yn derbyn y cymorth cywir ar yr adeg cywir.
Darparu gwaith uniongyrchol ac anuniongyrchol i blant/pobl ifanc ag anhwylderau iechyd meddwl dwys.
Darparu asesiad risg o wahanol ffyrdd o ymddwyn a allai fod yn niweidiol a ffactorau yn berthnasol i anhwylderau iechyd meddwl neu hunan-niweidio bwriadol.
Hyrwyddo perthnasoedd gwaith effeithiol o fewn y tîm amlddisgyblaethol drwy gydweithio ag aelodau eraill y tîm a gweithwyr proffesiynol o asiantaethau eraill.
Rhoi cyngor, ymgynghoriaeth ac arweiniad ar gyfer staff cymorth mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol lle bo hynny'n briodol.
Cymryd rhan mewn trafodaeth glinigol ac adolygu achosion gyda chydweithwyr.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Clinigol
· Gweithio yn unol â deddfwriaethau a nodir ym Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
· Cyfrannu at gynnal a hwyluso Pwynt Mynediad CAMHS.
· Darparu asesiadau iechyd meddwl cychwynnol manwl a phenodol i blant a phobl ifanc sy’n cael eu cyfeirio at y gwasanaeth a/neu therapïau penodol i blant a phobl ifanc fel y nodwyd.
· Darparu gwaith uniongyrchol ac anuniongyrchol i blant/pobl ifanc ag anhwylderau iechyd meddwl dwys.
· Cynnig asesu clinigol a therapi / ymyrraeth therapiwtig mewn cydweithrediad â Gwasanaethau CAMHS ehangach fel bo'n briodol.
· Darparu asesiad risg o wahanol ffyrdd o ymddwyn a allai fod yn niweidiol a ffactorau yn berthnasol i anhwylderau iechyd meddwl neu hunan-niweidio bwriadol.
· Darparu asesiadau brys ac asesiadau mewn argyfwng ar gyfer pobl ifanc a chynnwys gwasanaethau Haen 4 os yw’n briodol.
· Darparu ymyriad llym lle bo sefyllfaoedd brys yn codi o ran plant yn cael cefnogaeth gan CAMHS arbenigol
· Hyrwyddo perthnasoedd gwaith effeithiol o fewn y tîm amlddisgyblaethol drwy gydweithio ag aelodau eraill y tîm a gweithwyr proffesiynol o asiantaethau eraill
· Rhoi cyngor, ymgynghoriaeth ac arweiniad ar gyfer staff cymorth mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol lle bo hynny'n briodol.
· Cymryd rhan mewn trafodaeth glinigol ac adolygu achosion gyda chydweithwyr
· Rheoli eich llwyth gwaith yn effeithiol a datblygu rhaglen ac arfer therapiwtig gan gynnwys gwaith gweinyddol gofynnol
· Hybu arfer yn seiliedig ar dystiolaeth drwy ddefnyddio ymchwil sy’n berthnasol yn glinigol a/neu ddysgu myfyrwyr a grwpiau aml-asiantaethol.
Rheolaeth
· Darparu rheolaeth llinell uniongyrchol i staff clinigol iau sy’n gweithio o fewn y gwasanaeth CAMHS lle bo’n briodol
· Cymryd rhan mewn gweithgaredd archwilio clinigol a chasglu data gweithgaredd clinigol ar gyfer y gwasanaeth CAMHS
· Cwblhau a diweddaru’r holl wybodaeth sy’n cael ei chynnwys gyda dogfennau cleientiaid a ddefnyddir gan y gwasanaeth, fel bo’n briodol i’ch rhan chi mewn achos.
Strategol
· Helpu i ddatblygu llwybrau gofal rhyngasiantaeth/integredig ar gyfer plant a phobl ifanc
· Cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm a mynd i gyfarfodydd datblygiad y gwasanaeth lle bo'n briodol.
· Cymryd rhan mewn gwelliannau parhaus i wasanaethau drwy ymgynghori â defnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill
· Cynnig ymgynghoriad sydd wedi ei drefnu â chydweithwyr amlasiantaethol yn rheolaidd
· Darparu pecyn a hyfforddiant ar ymyriad/atal i bobl ifanc ynghylch delio â materion iechyd emosiynol
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster proffesiynol perthnasol
- Cymwys i ymarfer dan Fesur Iechyd Meddwl Cymru 2010. Mae hyn yn cynnwys nyrsys iechyd meddwl cofrestredig, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol, seicolegwyr sy'n ymarfer.
- Diploma ôl-radd neu wybodaeth berthnasol, hyfforddiant a phrofiad ym maes arbenigol a gafwyd drwy hyfforddiant arbenigol a phrofiad gwaith wrth weithio.
- Gwybodaeth wych o broblemau ac anhwylderau iechyd meddwl
- Profiad ôl-raddedig perthnasol o weithio gyda phlant, pobl ifanc theuluoedd mewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol neu leoliad iechyd meddwl.
- Gallu cynnal asesiadau iechyd meddwl drwy ofyn cwestiynau’n briodol, arsylwadau a chofnodi cywir.
- Gallu uniaethu'n dda gyda gweithwyr proffesiynol eraill
- Yn gwybod am faterion proffesiynol Yn broffesiynol atebol
Meini prawf dymunol
- Deall strwythurau gwasanaeth a gweithio rhyngasiantaethol
- Cymhwyster ffurfiol ychwanegol mewn dull therapiwtig cydnabyddedig o weithio
- Siaradwr Cymraeg
Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Knowledge and appreciation of national policies
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ffurfiol mewn maes perthnasol e.e. datblygiad plant, iechyd meddwl ayb
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Elin Sanderson
- Teitl y swydd
- CAMHS SPOA Practitioner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 852450
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth






.png)
