Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Nyrsio
Gradd
Gradd 7
Contract
Cyfnod Penodol: 7 mis (Cyfnod mamolaeth)
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-NMR439-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bodfan
Tref
Caernarfon
Cyflog
£46,840 - £53,602 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
15/07/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Nyrs Arweiniol Gofal Iechyd Parhaus (CHC)

Gradd 7

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 7 MIS OHERWYDD CYFNOD MAMOLAETH.

 

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.

 

Mae deilydd y swydd yn gyfrifol am weithredu a monitro cyllid Gofal Iechyd Parhaus y GIG (CHC) mewn Cartrefi Gofal ac ar draws pecynnau gofal y cartref yn unol â Fframwaith Cenedlaethol Gofal Iechyd Parhaus (CHC) a Gofal Nyrsio Cofrestredig (FNC) a ariennir gan y GIG.

Bydd y rôl yn cynnwys cydweithio helaeth â'r Awdurdodau Lleol gan sicrhau bod cleifion yn y Sector Annibynnol a ariennir gan BIPBC yn derbyn gwasanaeth diogel o ansawdd uchel.

Bydd deilydd y swydd yn cyd-drefnu, yn craffu ar geisiadau CHC ac yn cyfrannu at adolygiadau CHC a FNC, yn mynd i gyfarfodydd y Tîm Amlddisgyblaethol (MDT) ac yn cymryd rhan ynddynt yn yr Ardal lle bo angen.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gweithio ar draws ffiniau proffesiynol a sefydliadol yn enwedig gyda Chartrefi Gofal Annibynnol, staff Gwasanaethau Cymdeithasol a Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Gofal Cychwynnol eraill pan fydd cleifion yn symud i mewn / allan o'r ardal. 

Meithrin a chynnal cydberthnasau cadarn â'r sectorau Statudol/ Gwirfoddol/ Annibynnol gan gynnwys, gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, meddygon teulu ac yn enwedig ardaloedd Awdurdod Lleol penodol ar draws BIPBC. 

Hybu gofal cwsmer ardderchog trwy gydol y broses Gofal Iechyd Parhaus gan sicrhau bod unrhyw bryderon yn cael eu datrys yn lleol lle bo modd. Bydd hyn yn cynnwys dyfarnu a derbyn gwybodaeth hynod gymhleth, sensitif a dadleuol lle bydd angen cydsyniad neu gydweithrediad lle y ceir rhwystrau at ddealltwriaeth. Mae hyn yn ymwneud â sefydliadau allanol a'r cyhoedd. Trafod â chleientiaid/ teuluoedd ac aelodau'r cyhoedd gan roi gwybodaeth gymhleth mewn sefyllfaoedd hynod sensitif ac emosiynol fel ceisiadau/ adolygiadau Gofal Iechyd Parhaus a allai fod â goblygiadau ariannol yn enwedig o ran cleientiaid sy'n cyllido eu hunain sy'n golygu, yn aml, bod awyrgylch gelyniaethus a hynod emosiynol sy'n gofyn am sgiliau trafod medrus. 

Cynnal cofnodion achos manwl-gywir a sicrhau bod penderfyniadau panel yn cael eu cyfleu'n glir ac mewn ffordd sensitif i gleientiaid/ teuluoedd yn unol â therfynau amser cytûn yn unol â'r Fframwaith Cenedlaethol Gweithredu yng Nghymru.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Rmn/RnMH - Cofrestriad Proffesiynol gyda Chyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster Addysgu

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol ôl-gofrestru
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio gyda sefydliadau partner

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • penderfyniadau clinigol. Sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar/ ysgrifenedig.

RHINWEDDAU PERSONOL

Meini prawf hanfodol
  • Hunangymhelliant, yn frwdfrydig, yn rhagweithiol ac yn ymrwymedig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Suzanne Parkinson
Teitl y swydd
CHC Matron
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 851656