Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cymuned
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS337-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Bae Colwyn
- Tref
- Bae Colwyn
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 24/06/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Gweithiwr Gofal Gorffwylledd
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi codi i unigolyn brwdfrydig i ymuno a'n Tîm Ysbyty Cymuned i ddarparu gofal effeithiol, clinigol a medrus.
Bydd deilydd y swydd yn cefnogi'r nyrs hyfforddedig a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill wrth ddarparu'r safon uchaf o ofal a ganolbwyntir ar y claf.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn gweithio'n agos gyda'r tîm datblygiad dementia i ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau i alluogi staff eraill ar draws safle'r ysbyty i ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol i bobl sydd â dementia, yn ogystal â chefnogaeth i'w gofalwyr a'u teuluoedd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg gyffredinol o safon dda
- NVQ lefel 3 neu gyfatebol
- Agwedd bositif tuag at ofal dementia a'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan ddementia
- Yn ymwybodol o flaengareddau, gan gynnwys 'dyma fi', 'tip tree' ayb.
Meini prawf dymunol
- NVQ level 4
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gweithio gyda phobl sydd a dementia mewn lleoliad clinigol
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio gyda chleifion hyn
- Profiad o gefnogi gofalwyr a theuluoedd pobl sydd a dementia
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dim
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Gallu gweithio mewn amgylchedd llawn straen
Meini prawf dymunol
- Sgiliau TG sylfaenol
- Gallu ymgymryd ag addysgu a dysgu sylfaenol ar gyfer aelodau staff, cleifion a gofalwyr
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cadw amser da
- Dull hyblyg at waith
- Diwyd a dibynadwy
- Wedi ei gymell i gefnogi eraill i ennill sgiliau dementia
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dawn Patterson
- Teitl y swydd
- Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 8520017
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth