Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ysbyty Cymunedol
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR183-0326
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy
- Tref
- Glannau Dyfrdwy
- Cyflog
- £48,527 - £55,532 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 02/04/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Uwch Ymarferydd Nyrsio
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086
Trosolwg o'r swydd
Dylai deilydd y swydd fod yn nyrs profiadol sydd â Dyfarniad Uwch fel Ymarferydd Nyrsio, a Gradd Athro neu yn gweithio tuag at eu Gradd Athro.
Bydd deilydd y swydd yn rhoi arweinyddiaeth glinigol o fewn tim prysur mewn Ysbyty Gymunedol sydd yn rhagweithiol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu arbenigedd nyrsio, gwybodaeth, a sgiliau mewn ymarfer clinigol sy'n hawdd cael mynediad atynt, a hyblyg a darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i wella gofal cleifion. Yn cynnwys cymryd y brif rôl yn yr uwch asesiad clinigol o gleifion mewnol sydd â chyflwyniadau cymhleth iawn a/neu gronig.
Penderfynu diagnosis a thriniaethau clinigol fel y dangoswyd a chynnal cofnodion fel ymarferydd annibynnol gan gysylltu'n agos ag ymarferwyr meddygol, gan wneud y defnydd gorau o sgiliau clinigol, o fewn yr ysbyty a galluogi’r gwasanaeth i ymateb yn hyblyg. Rhagwelir y bydd 80% o'r amser yn cael ei dreulio o fewn y maes clinigol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
CYMWYSTERAU
Meini prawf hanfodol
- Nyrs lefel gyntaf NMC gofrestredig.
- MSc Arfer Uwch neu astudiaeth ôl-gofrestriad lefel meistr cyfatebol yn berthnasol i’ch arbenigedd
- Rhagnodi annibynnol neu barodrwydd i weithio tuag ato
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o fewn lleoliad cymunedol
- Profiad o arwain a rheoli tîm o nyrsys
Meini prawf dymunol
- • Profiad blaenorol o ymchwil ac archwilio
GWYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth o faterion proffesiynol a chyfredol mewn nyrsio ysbyty i'r
- Dealltwriaeth o reoli adnoddau, iechyd a diogelwch, materion risg clinigol ac ansawdd
RHINWEDDAU PERSONOL
Meini prawf hanfodol
- Agwedd gadarnhaol at weithio amlddisgyblaethol
- Diddordeb a pharodrwydd i ddatblygu arfer nyrsio
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jan Williams
- Teitl y swydd
- Matron
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 859067
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth






.png)
