Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Adran Cleifion Allanol
Gradd
Gradd 3
Contract
Cyfnod Penodol: 18 mis (Dyddiad Gorffen: 19.02.2028)
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-ACS748-0926
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy
Tref
Glannau Dyfrdwy
Cyflog
£26,813 - £27,890 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
14/09/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Uwch Gynorthwyydd Gofal Iechyd

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 18 mis oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth  

Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon. 

Rydym yn chwilio am unigolyn cydwybodol, llawn cymhelliant i weithio mewn Adran Gleifion Allanol prysur. Bydd y swydd yn caniatáu i’r unigolyn llwyddiannus ddatblygu eu gwybodaeth bresennol mewn lleoliad clinigol amrywiol. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi’r nyrs hyfforddedig mewn sawl arbenigeddau gan sicrhau darpariaeth o ofal diogel a thosturiol o’r ansawdd uchaf. Mae’r Adran Gleifion Allanol yn esblygu'n gyson drwy ddatblygiadau a chyfleoedd ychwanegol.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n dda a chydweithio’n effeithiol mewn tîm yn hanfodol. Mae bod â diddordeb mewn hybu iechyd yn ddymunol.

Y parodrwydd i ddatblygu ac ymarfer sgiliau newydd.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.  

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Yn gweithio fel rhan o'r tîm amlddisgyblaethol sy'n darparu gofal i gleifion yn y lleoliad cleifion allanol dan oruchwyliaeth a ddarperir gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig.
  • Ymgymryd â gweithgareddau gofal personol a dyletswyddau gofal clinigol gydag ychydig iawn o gymorth a goruchwyliaeth fel y'u dirprwyir gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig yn unol â Chanllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
  • Sicrhau bod y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyflwr a chynnydd y claf/cleient yn rheolaidd.
  • Sicrhau bod yr amgylchedd gwaith yn ddiogel a hylan a bod polisïau a phrosesau atal a rheoli heintiau yn cael eu dilyn.
  • Cyfrannu at addysgu a goruchwylio myfyrwyr a staff iau.
  • Cyflawni’r rôl yn unol â Gwerthoedd y Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth a Chod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

NVQ 3

Meini prawf hanfodol
  • NVQ 3 neu cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Profiad

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad Gofal Iechyd
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn adran cleifion allanol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sister Kate Chaney
Teitl y swydd
Senior Sister
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000859014
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Outpatients Manager Gida Obbard - [email protected]