Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Community Hospital
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 18 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS001-0126
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Inffyrmari Dinbych
- Tref
- Dinbych
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/01/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi codi i unigolyn brwdfrydig ymuno â’n Tîm Ysbyty Cymuned i ddarparu gofal medrus, clinigol ac effeithiol. Mae Ward Mamau yn Inffyrmari Dinbych yn ward gyda 23 gwely sy’n darparu adsefydlu a gofal diwedd oes.
Bydd deilydd y swydd yn cefnogi’r nyrs hyfforddedig a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill i ddarparu gofal o safon uchel sy’n canolbwyntio ar y claf.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cynorthwyo’r nyrs gofrestredig i ymgymryd â gofal nyrsio uniongyrchol.
Ymgymryd â dyletswyddau a ddirprwywyd sy’n ymwneud â gofal cleifion sy’n cyfrannu at gefnogaeth barhaus cleifion. Bydd hyn yn cynnwys hebrwng cleifion i amrywiol gyrchfannau heb oruchwyliaeth, yn achlysurol gan ddefnyddio cadair olwyn.
Ymgymryd ag arsylwi cleifion: gwres, pwysedd gwaed, pwls, llawnder ocsigen, glwcos y gwaed a phrawf wrin ar ôl cyfnod priodol o gyfarwyddyd a hyfforddiant mewnol.
Hysbysu unrhyw newidiadau sydd i’w gweld yng nghyflwr claf i'r nyrs mewn gofal.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- NVQ 2 neu’n barod i weithio tuag ato a’i gwblhau o fewn y 12 mis cyntaf yn y swydd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio gyda cyhoedd
- Profiad o weithio mewn tîm
SGILIAU
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Sicrhau darparu gofal diogel ac effeithiol
Gwydodaeth
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth o ofal sylfaenol
- Dealltwriaeth o'r Ddeddf Gwarchod Data a Chyfrinachedd Cleifion
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Chloe Williams
- Teitl y swydd
- Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850019
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth






.png)
