Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ysbyty Cumuned
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-ACS097-0226
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Inffyrmari Dinbych
Tref
Dinbych
Cyflog
£24,833 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/03/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymgeisydd llwyddiannus ymuno â'r Ystafell IV/Adran Cleifion Allanol yn Ysbyty Dinbych. O fewn yr adran rydym yn cynnig therapi mewnwythiennol ac yn darparu clinigau cleifion allanol yn agosach at adref i'r rhai yn ein cymuned.

Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd brwdfrydig a thosturiol i ymuno â'n tîm. Bydd deiliad y swydd yn dangos sgiliau cyfathrebu da ac yn ymrwymo i ofal cleifion rhagorol. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r nyrsys cofrestredig i ddarparu gofal diogel ac effeithiol o ansawdd uchel. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau taith esmwyth i'r claf gan gynorthwyo gyda pharatoi, darparu a monitro gofal o fewn amgylchedd clinigol prysur.

 Gan weithio o dan oruchwyliaeth y nyrs gofrestredig byddwch yn cefnogi cleifion sy'n derbyn trwythiadau mewnwythiennol, yn paratoi offer ac yn paratoi ardaloedd clinigol. Byddwch yn darparu sicrwydd a chefnogaeth i'r cleifion, gan hyrwyddo urddas a pharch bob amser. Disgwylir i ddeiliad y swydd gynnal safonau uchel o ran rheoli heintiau a gallu gweithio'n llwyddiannus fel rhan o dîm amlddisgyblaethol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Gweithio fel rhan o'r tim amlddisgyblaethol sy'n darparu gofal i gleifion gyda chymorth a goruchwyliaeth a ddarperiir gan weithiwr gofal iechyd proffesiynold cofrestredig.
  • Bydd yn cyflawni gweithgareddau a thasgau  gofal personol fel y'u dirprwyir gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, yn unol a Chanllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan AaGIC.
  • Sicrhau bod y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig un cael ur wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am gyflwrt y claf/cleieint a'i welliant/dirywiad.
  • Cynnal safonau uchel o lanweithdra yn y lleoliad gofal iechy a storio eitemau stoc yn briodol.
  • Cyflawni rol yn unol a Gwerthoedd y Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth a'r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd ung Nghymru.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu cael disgrifiad llawn o'r Swydd a Maniffesto'r Person ynghlwm yn y dogfennau cymorth neu cliciwch ar 'Cymhwyso nawr' i weld yn Trac.

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • Lefel 2 mewn Gofal

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu da - ar lafar ac yn ysgrifenedig, gyda'r gallu y gyfleu gwybodaeth yn glir ac un sensitif
  • Yn gallu dangos agwedd ofalgar a thosturiol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio fel rhan o dim
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o weithio gyda phobl mewn rol gofalu

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jill Hutchinson
Teitl y swydd
Lead Nurse
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000855744