Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Camddefnyddio Sylweddau
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-ACS740-0926
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau Sir Ddinbych
Tref
Sir Ddinbych
Cyflog
£32,557 - £39,631 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
16/09/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Gweithiwr Camddefnyddio Sylweddau

Gradd 5

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer swydd Gweithiwr Camddefnyddio Sylweddau Band 5 o fewn Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Sir Ddinbych.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu ymyriadau asesu a thriniaeth cynhwysfawr i unigolion sy'n camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys asesu risg, gofal cymdeithasol ac effeithiau seicolegol ar unigolion syss yn camddefnyddio sylweddau. Hefyd i weithio fel ymarferydd ymreolaethol mewn lleoliadau cymunedol gan gynnwys cartrefi defnyddwyr y gwasanaeth. Bydd deiliad y swydd yn rheoli achosion ac yn cefnogi unigolion trwy eu triniaeth o fewn y gwasanaeth. 

Noder: Gall y swydd wag hon gau'n gynnar os derbynnir nifer fawr o geisiadau.  Argymhellwn eich bod yn cyflwyno eich cais cyn gynted a phosibl.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd gan ddeiliad y swydd wybodaeth a phrofiad o ymyriadau a thriniaeth camddefnyddio sylweddau a bydd gofyn iddynt ddefnyddio sgiliau cyfathrebu effeithiol i ymgysylltu, cymell a chynnal parhaus o gysylltiad gyda defnyddwyr y gwasanaeth ac i fod yn gyfrifol am ddatblygu a gwerthuso rhaglenni triniaeth fel sy'n briodol. Bydd strwythr ac anghenion unigolion yn caeu eu trafod yn y cyfweliad. Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth camddefnyddio alcohol a chyffuriau. Gofynnir i ymgeiswyr ddefnyddio'r adran "Gwybodaeth Ategol" ar y ffurflen gais i nodi eu rhesymau dros wneud cais a'u haddasrwydd, gan gyfeirio at  fanyleb person, ar gyfer y swydd hon.

 Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ac mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w weld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster academaidd perthnasol ar lefel gradd neu brofiad helaeth cyfatebol a enillwyd
  • Ymwybyddiaeth o ffiniau proffesiynol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster academaidd cysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad helaeth o weithio mewn amgylchedd trin camddefnyddio sylweddau
  • Y gallu i adnabod ac ymateb i ymddygiadau heriol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn lleoliad cymunedol
  • Gwybodaeth broffesiynol o gamddefnyddio sylweddau

Tueddfryd a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol
  • Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth
  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol
  • Sgiliau casglu data
  • Dangos gallu i gefnogi a goruchwylio staff
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau perthnasol ychwanegol

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am ymyriadau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  • Awareness of the changing health agenda for NHS Wales
  • Ymwybyddiaeth o faterion camddefnyddio sylweddau lleol a chenedlaethol
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth broffesiynol o wasanaethau camddefnyddio sylweddau
  • Ymwybyddiaeth arbenigol o effeithiau cyffuriau ac ymyriadau triniaeth priodol / sydd ar gael

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Dull proffesiynol
  • Sgiliau rheoli amser
  • Sgiliau rheoli newid
  • Hyder a'r gallu i weithio'n hyderus fel rhan o dîm amlddisgyblaethol
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau Cyflwyno

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Ella Millband
Teitl y swydd
Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 856828