Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Nyrsio
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
37.5 awr yr wythnos (Ystyrir oriau llawn amser/rhan amser. Dydd Llun i ddydd Gwener 08:00 i 16:00 gyda 30 munud o egwyl ginio heb dâl.)
Cyfeirnod y swydd
050-ACS579-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bron Afon, Bryn Y Neuadd
Tref
Llanfairfechan
Cyflog
£27,898 - £30,615 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
03/11/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ymarferydd Addysg a Datblygu HCA

Gradd 4

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymgeiswyr brwdfrydig ymuno â thîm Addysg a Datblygu Cynorthwywyr Gofal Iechyd (HCA). Mae gennym ddwy swydd amser llawn ar gael, fodd bynnag, byddai oriau rhan-amser yn cael eu hystyried. Nod y swydd  yw helpu i gefnogi datblygiad HCA ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

Bydd y swydd yn cynnwys cefnogi HCAs a gweithwyr Banc newydd eu penodi i gael mynediad at raglen Sefydlu Cymru Gyfan, a chefnogi dysgwyr trwy asesu eu Fframwaith Cymwysterau a Chredydau. Rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod â phrofiad clinigol diweddar o'r GIG gan y byddant yn gweithio mewn meysydd clinigol ledled BIPBC, mewn ysbytai ac yn y gymuned, ac yn cynorthwyo dysgwyr yn eu datblygiad proffesiynol. Bydd y swydd hefyd yn cynnwys yr ymgeisydd yn dylunio, datblygu a chyflwyno sesiwn ddatblygiadol yn unol â Rhaglen Sefydlu Cymru Gyfan i ddysgwyr.

Mae gyrru ar draws y Bwrdd Iechyd yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Lleoliad swyddfa i'w gadarnhau yn y Gorllewin neu'r Canol.

Bydd cyfweliadau wyneb yn wyneb, dyddiad i'w gadarnhau.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cyfrannu at gynllunio rhaglenni hyfforddiant, eu datblygu a'u darparu ar gyfer Cynorthwyydd Gofal Iechyd a phrentisiaid iechyd o fewn y Gymuned Iechyd dynodedig.

Darparu asesiad a chefnogaeth i Gynorthwywyr Gofal Iechyd a phrentisiaid yn eu datblygiad proffesiynol.

Gweithredu gofal i gleifion, arsylwi cyflwr y claf, cofnodi arsylwadau clinigol ac adrodd i'r nyrs cofrestredig wrth gefnogi Cynorthwywyr Gofal Iechyd a phrentisiaid yn ardal y ward fel rhan o'r broses asesu,

Cynnal gweithdrefnau nyrsio, e.e ail orchuddio briwiau, lefelau siwgr yn y gwaed, fel rhan o asesiad addysg alwedigaethol a gofal cleifion.

Goruchwylio Cynorthwywyr Gofal Iechyd / Prentisiaid a chynorthwyo gydag asesu eu hanghenion dysgu, eu datblygu a'u cadw.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a / neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • NVQ/QCF Lefel 3 mewn pwnc sy'n ymwneud ag Iechyd neu Gyfwerth
  • Lefel 4 Ymarfer Gofal Iechyd neu gyfwerth neu'n barod i ymgymryd o fewn 18 mis
  • Gallu dangos datblygiad proffesiynol parhaus diweddar
  • Gwobr Aseswr A1
  • Cofrestru â Chyngor Addysg Cymru os nad yw wedi cofrestru'n barod
Meini prawf dymunol
  • Tystysgrif Addysgu neu gyfwerth
  • Gwobr IQA V1

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn gymwys yn glinigol mewn ystod eang o ymyriadau clinigol
  • Profiad perthnasol mewn amgylchedd gofal iechyd
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn partneriaeth ar draws sefydliadau
  • Sgiliau cyflwyno

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sian Hywel
Teitl y swydd
HCA Education team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000852744
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

I gael rhagor o fanylion/ymweliadau anffurfiol, cysylltwch â:

Sian Hywel, Arweinydd Tîm Addysg HCA. [email protected] (03000 852744)

Janet Barker Addysgwr Ymarfer Addysg CGI – [email protected]  (03000 852638).

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg