Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Nyrsio
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Cyfnod Penodol: 5 mis (Mae’r swydd hon am Gyfnod penodol/Secondiad tan 31.12.2026 wrdd gofynion y gwasanaeth.)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Dydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR420-0726
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Bron Afon, Ysbyty Bryn Y Neuadd
- Tref
- Llanfairfechan
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Arweinydd Tîm Addysg a Datblygiad CGI
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae’r swydd hon am Gyfnod penodol/Secondiad tan 31.12.2026 wrdd gofynion y gwasanaeth.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Mae cyfle cyffrous o secondiad wedi codi i unigolyn arloesol, llawn cymhelliant a deinamig, sydd â rhinweddau arweinyddiaeth cryf, gyflawni swydd Arweinydd Tîm Addysg Alwedigaethol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli tîm o ‘ymarferwyr addysg’ sy’n darparu cyfleoedd addysg a datblygu i weithlu’r Gynorthwyr Gofal Iechyd (CGI) sy’n gweithio ar draws y Bwrdd Iechyd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan weithredol mewn cynllunio a darparu addysg. Byddai profiad sylweddol o nyrsio mewn meysydd sy'n berthnasol i'r swydd hon, ynghyd â phrofiad o ddarparu addysg i staff nyrsio amrywiol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn fanteisiol i'r swydd a hysbysebir.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn fodel rôl gweladwy; gallu dangos gwytnwch, hyblygrwydd a bod â sgiliau trefnu a chyfathrebu eithriadol.
Y swydd a hysbysebir yw 37.5 awr yr wythnos, y bydd angen ei gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad presennol â'r NMC/HCPC/GDC
- Gradd ôl-raddedig mewn pwnc perthnasol
- Cymhwyster rheoli neu brofiad cyfwerth
- Cymhwyster rheoli neu brofiad cyfwerth
Meini prawf dymunol
- MSc neu barodrwydd i ymgymryd
arall
Meini prawf hanfodol
- Profiad o reoli ar lefel uwch yn y GIG, yn cynnwys pob agwedd ar reoli timau/gwasanaethau/cyllidebau yn llwyddiannus.
- Llwyddiant amlwg o ran datblygu, arwain a chymell timau.
- Profiad llwyddiannus o weithredu newidiadau/gwella ansawdd gan ddefnyddio deilliannau mesuradwy i lywio datblygiad gwasanaethau.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Neirian Jennings
- Teitl y swydd
- Head of Education & Development
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07919302304
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
I drafod y swydd hon ymhellach, mae croeso i chi gysylltu ag:
Neirian Jennings
Pennaeth Addysg a Datblygu
Head of Education and Development
e-bost • e-mail: [email protected]
Ffon Symudol/Mobile: - 07919302304
Neu
Anne-Marie Rowlands
Director of Nursing Professional Regulation & Education/
Cyfarwyddwr Nyrsio, Rheoleiddio ac Addysg Proffesiynol
e-bost • e-mail: [email protected]
Ffôn • Tel: 07825193580
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth






.png)
