Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Dialysis arennol
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR464-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Uned Arennol, Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Y Rhyl
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Nyrs Gofrestredig Hameodialysis
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae'r Uned Arennol yn adran amrywiol, sy'n gofalu am gleifion â Methiant Arennol o'r cyfnod cyn dialysis, i ddialysis cynnal a chadw, rheolaeth geidwadol, gofal diwedd oes a chefnogi cleifion trwy drawsblaniad. Mae'r adran hefyd yn darparu cefnogaeth i gleifion sy'n datblygu methiant arennol acíwt. Mae rôl y nyrs staff yn yr adran yn amrywiol a byddwch yn cael y cyfle i ofalu am gleifion sy'n cael dialysis, ar yr uned dialysis, ar ein ward arennol ac o fewn y lleoliad gofal critigol.
Mae'r dull o ofalu am gleifion sy'n cael dialysis yn wirioneddol amlddisgyblaethol, byddwch yn gweithio'n agos gyda meddygon, nyrsys arbenigol, dietegwyr, gweithiwr cymdeithasol, seicolegydd ac adran y fferyllfa i ddarparu gofal parhaus o ansawdd uchel i'r cleifion yn yr adran.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r ymagwedd tuag at ofalu am gleifion sy'n cael dialysis yn wirioneddol amlddisgyblaethol, byddwch yn gweithio'n agos gyda meddygon, nyrsys arbenigol, deietegwyr, gweithiwr cymdeithasol, seicolegydd a'r adran fferyllol i ddarparu gofal parhaus o ansawdd uchel ar gyfer cleifion yn yr adran.
Ae deilydd y swydd yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio wedi'i seilio ar dystiolaeth, gan gydweithio ag eraill er mwyn bodloni anghenion cleifion haemodialysis â'u teuluoedd.
Bydd deilydd swydd yn cynorthwyo i reoli a threfnu ei faes clinigol a chymryd rhan yn addysg, aelodau eraill o staff, eu datblygiad a’u goruchwyliaeth.
Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd ddatblygu gwybodaeth a sgiliau mewn nyrsio arennol drwy weithio â nyrsys arbenigol arennol, a nyrsys ward arennol eraill.
DYLETSWYDDAU / CYFRIFOLDEBAU:
Mae dyletswyddau a chyfrifoldebau wedi cael eu dosbarthu fel a ganlyn:
- Arfer Clinigol
- Llywodraethu Clinigol
- Rheoli ac Arwain
- Addysg a Datblygiad
- Datblygiad Proffesiynol
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
CYMWYSTERAU A/NEU WYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- Wedi cofrestru â’r NMC.
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ar ôl cofrestru e.e. POVA.
- Cymhwyster sy'n gysylltiedig ag arennol.
PROFIAD
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth cyn cofrestru mewn gofal nyrsio uniongyrchol.
- Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd.
- Diddordeb mewn datblygu sgiliau nyrsio sy'n gysylltiedig ag arennol.
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol.
- Gallu i weithredu arfer yn seiliedig ar dystiolaeth.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sebin Sebastion
- Teitl y swydd
- Unit Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 845658
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth