Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ysbyty Cymuned
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Sifftiau Cynnar, Hwyr, Nos)
Cyfeirnod y swydd
050-ACS599-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cymunedol Rhuthun
Tref
Rhuthun
Cyflog
£24,833 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
05/11/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cynorthwyydd Gofal Iechyd

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous ar gael ar gyfer unigolyn brwdfrydig sy'n dymuno dod yn rhan o Dîm ein Hysbyty Cymunedol i ddarparu gofal clinigol medrus ac effeithiol.  Yn Ward Menlli, ceir 27 gwely sy'n cael eu cynnal gan dîm amlddisgyblaethol.

Gwella ansawdd agweddau allweddol ar wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer pobl sydd â salwch acíwt neu gronig, pobl eiddil neu bobl anabl.

Eich gwaith chi fydd cynorthwyo'r nyrs hyfforddedig a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill i ddarparu'r safonau gorau posibl o ran gofal sy'n canolbwyntio ar gleifion.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  Cynorthwyo'r nyrs gofrestredig/ymarferydd i sicrhau safonau uchel o ran y gofal cyfannol a ddarperir i gleifion, gan sicrhau  y cynhelir urddas cleifion a chydraddoldeb bob amser.

·         Sicrhau bod yr egwyddorion a amlinellir yn yr hanfodion gofal yn cael eu hymgorffori mewn arferion beunyddiol er mwyn gofalu y darperir gwasanaeth o ansawdd uchel i gleifion a chleientiaid.

·        Cynorthwyo'r cleifion i gynnal eu hylendid personol ac i fod yn drwsiadus.

·      Cyflawni dyletswyddau a nodir yn y cynllun gofal sydd wedi’u dirprwyo gan ymarferydd cymwys (dim ond y dyletswyddau hynny y bydd deilydd y swydd wedi cael hyfforddiant ac asesiadau priodol er mwyn gallu eu cyflawni).

·       Paratoi wardiau/mannau clinigol i dderbyn cleifion trwy wneud sicrhau eu bod yn lân a thaclus - cynorthwyo i gynnal y safonau yn y mannau clinigol a hysbysu'r unigolyn priodol am unrhyw annibendod/llanastr.

·  Cynorthwyo i dderbyn cleifion newydd i’r adran trwy baratoi ardal gwely/troli, croesawu cleifion, mynd â hwy at y gwely/i fannau eraill, a dangos y ward i gleifion.

·         Cwblhau cardiau bwydlenni cleifion gan gynnwys y claf yn y broses, ac ystyried unrhyw gyfarwyddiadau gan nyrs gymwysedig ynghylch y diet.

orthwyo ar adegau prydau bwyd neilltuedig cleifion gan sicrhau bod cleifion yn cael eu prydau/diodydd yn brydlon ac yn ddiogel, a sicrhau y golchir dwylo a bod yr amgylchedd yn addas ar gyfer bwyta e.e. paratoi’r lle o gwmpas y gwely. 

 

 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio drwy'r cyfrif e-bost sydd wedi ei gofrestru ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac. 

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • NVQ 2 neu’n barod i weithio tuag ato a’i gwblhau o fewn y 12 mis cyntaf yn y swydd

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sicrhau darparu gofal diogel ac effeithiol

GWYBODAETH

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth o ofal sylfaenol
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am y Ddeddf Iechyd Meddwl

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Bethan Rogers
Teitl y swydd
Ward Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 850025
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg