Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Mamolaeth
Gradd
Agenda ar gyfer newid y GIG: Band 8b
Contract
12 mis (Secondiad)
Oriau
Rhan-amser - 2 sesiwn yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-NMR009-0826
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Tŷ'r Afon, Ynys Bridge Court
Tref
Radyr
Cyflog
y flwyddyn pro rata
Yn cau
18/08/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Bydwraig Ymgynghorol

Agenda ar gyfer newid y GIG: Band 8b

Croeso i Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023.

Ein pwrpas allweddol yw...

Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.

 I gael gwybod mwy, ewch i Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru.

 Ein Gwerthoedd

Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.


Nodyn Pwysig ar gyfer swyddi a gaiff eu cynnig ar sail tymor penodol neu secondiad.

Gall unigolion sydd â swydd barhaol (sylfaenol) yn y GIG ond gael eu penodi drwy secondiad. Bydd angen i’ch Rheolwr llinell presennol roi cymeradwyaeth ar gyfer secondiad cyn gellir cyflwyno cais.


Trosolwg o'r swydd

NODER MAI DIM OND CEISIADAU GAN STAFF A GYFLOGIR GAN GIG CYMRU AR HYN O BRYD Y BYDDWN YN EU DERBYN.

MAE’R SWYDD HON AM SECONDIAD AM 12 MIS OHERWYDD CYLLIDO

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON. 

 

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer swydd Bydwraig Ymgynghorol o fewn Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru.

Bydd y swydd arweinyddiaeth allweddol hon yn cefnogi cyflawni rhaglen waith y rhwydwaith, sydd wedi'i chynllunio i wella canlyniadau beichiogrwyd

Bydd gan ddeiliad y swydd lefel sylweddol o brofiad fel bydwraig ymgynghorol arbenigol ar y gofrestr ymarfer, gyda thystiolaeth o sgiliau arweinyddiaeth rhagorol, gan ysbrydoli eraill i wella safonau a chysondeb gofal i fenywod ledled Cymru.

Hysbysebir y swydd fel secondiad o flwyddyn gyda Pherfformiad a Gwella GIG Cymru.

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd deithio i gyflawni gofynion y rôl.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn fydwraig uwch brofiadol gyda sgiliau arweinyddiaeth profedig a thystiolaeth o gydweithio. Bydd yn gweithio mewn partneriaeth ag Arweinwyr Clinigol a Bydwreigiaeth y Rhwydwaith a chydweithwyr rhwydwaith eraill, wrth ddatblygu a gweithredu'r rhaglen waith yn unol â'r blaenoriaethau a nodwyd.

Bydd yn darparu arweinyddiaeth a chefnogaeth ar gyfer rhaglenni / prosiectau penodol, yn ogystal â darparu cyngor arbenigol ar fydwreigiaeth i ffrydiau gwaith eraill y rhwydwaith ac agweddau ar fusnes y Rhwydwaith.

Bydd yn hyrwyddwr dros wasanaethau Mamolaeth, gan weithredu fel pwynt cyswllt ymgynghorol i randdeiliaid a rhoi cefnogaeth ac arweiniad clinigol i uwch dîm y Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol, i sicrhau bod safonau darpariaeth gwasanaethau Mamolaeth yn parhau i wella ledled Cymru.

Gweithio i'n sefydliad

Mae gan Perfformiad a Gwella GIG Cymru (Gweithrediaeth GIG Cymru gynt) ran bwysig a gwerthfawr i’w chwarae wrth gyflawni blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru:

•    Cefnogi GIG Cymru i ddarparu gwell gwasanaethau iechyd i gleifion a'r cyhoedd
•    Cefnogi Gweinidogion i gadw GIG Cymru yn atebol am ddarparu gwasanaethau iechyd
 
Ers i Perfformiad a Gwella GIG Cymru gael ei sefydlu ym mis Ebrill 2023, mae sylfeini cadarn wedi'u rhoi ar waith o fewn y sefydliad, gan gynnwys dull gweithredu mwy cydgysylltiedig a gwybodus rhwng gwaith datblygu polisi a darpariaeth weithredol y GIG, a gwell cydlynu a chydweithredu ar draws systemau a llwybrau cyfan. Gan adeiladu ar y sylfaen hon, nod Perfformiad a Gwella GIG Cymru yw bod yn ganolfan ragoriaeth gydnabyddedig yn ei maes, yn effeithlon ac yn ymatebol i anghenion GIG Cymru a Gweinidogion, gan gefnogi arfer gorau, a symleiddio atebolrwydd.

Bydd Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn cefnogi'r GIG drwy ddarparu:

  • Gwasanaethau gwella
  • Cymorth i arloesi
  • Cymorth ym maes gwerth a chynaliadwyedd
  • Arbenigedd clinigol mewn gwella gwasanaethau, gan fanteisio ar y gorau yng Nghymru
  • Cymorth cyflenwi rhanbarthol

Bydd Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn cefnogi Gweinidogion drwy ddarparu:

  • Cymorth o ran darpariaeth ariannol
  • Cymorth o ran rheoli perfformiad
  • Cyngor cynllunio
  • Cyngor i Lywodraeth Cymru ar ddefnyddio pwerau cyfarwyddydau ac ymyriadau

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Am fanylion pellach ynghylch y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person, gweler y ddogfen amgaeedig.

Manyleb y person

Cymraeg

Meini prawf hanfodol
  • • Bydwraig Gofrestredig – wedi'i chofrestru ar hyn o bryd gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • • Tystiolaeth o'r gallu i feddwl yn strategol a dylanwadu ar lefel weithredol a strategol.
Meini prawf dymunol
  • • Cymhwyster Addysgu ac Asesu neu brofiad cyfatebol

Cymraeg

Meini prawf hanfodol
  • Addysg i lefel Gradd neu Feistr, neu lefel gyfwerth dderbyniol o wybodaeth a phrofiad

Cymraeg

Meini prawf hanfodol
  • Rheoli’r gwaith o newid a moderneiddio’r gwasanaeth yn llwyddiannus
Meini prawf dymunol
  • Yn gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jacqueline Davies
Teitl y swydd
Programme Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]