Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Prentisiaeth
- Gradd
- Prentisiaethau: Prentisiaeth
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NSWAPP100-0726
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £8
- Cyfnod cyflog
- Bob awr
- Yn cau
- 03/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Prentisiaeth Gweithiwr Cymorth Nyrsio
Prentisiaethau: Prentisiaeth
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Dechreuwch eich gyrfa gofal iechyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda trwy ein Hacademi Prentisiaethau arobryn. Mae’r brentisiaeth hon yn rhoi’r cyfle i chi ennill cyflog, meithrin profiad ymarferol mewn lleoliadau gofal iechyd go iawn, a gweithio tuag at gymhwyster lefel 3
cydnabyddedig – a hynny oll wrth wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau bob dydd cleifion.
A chithau’n Weithiwr Cymorth Nyrsio Prentis, byddwch yn dod yn rhan o dîm gofal iechyd cefnogol o’r cychwyn cyntaf gan feithrin sgiliau clinigol gwerthfawr, adeiladu eich hyder, a magu profiad a all agor drysau i yrfa hirdymor yn y GIG. Ochr yn ochr â dysgu ymarferol yn y gweithle,
byddwch yn cael amser astudio pwrpasol a chymorth parhaus i’ch helpu i lwyddo a datblygu’n broffesiynol.
Mae'r swydd hon wedi'i lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais.
Pam ymuno â’r Academi Prentisiaethau?
Mae’r brentisiaeth hon yn darparu cyfle i wneud y canlynol:
- Ennill wrth ddysgu, heb unrhyw gostau hyfforddi.
- Ennill cymhwyster Lefel 3 a gydnabyddir yn genedlaethol.
- Meithrin profiad a sgiliau gofal iechyd ymarferol.
- Cyrchu ystod eang o gymorth proffesiynol a phersonol.
- Camu ymlaen at fod yn Weithiwr Cymorth Nyrsio Band 3 cymwysedig.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yr hyn y mae’r Brentisiaeth yn ei Olygu
Mae hon yn rhaglen brentisiaeth 15 mis sy’n cyfuno dysgu yn y gweithle ag astudiaethau academaidd. Bydd prentisiaid yn cwblhau Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol yng Nghymru trwy Goleg Sir Benfro (cynhelir diwrnodau coleg yn Aberystwyth), ac yn cael cymorth gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol profiadol gydol y rhaglen.
Byddwch yn elwa o’r canlynol:
- Rhaglen ymsefydlu gynhwysfawr, sy’n cynnwys Hyfforddiant Sgiliau i Ofalu.
- Cymorth gan Oruchwyliwr Ymarfer Lleoliad pwrpasol.
- Amser wedi’i ddynodi ar gyfer hyfforddiant y tu allan i’r swydd yn ystod oriau gwaith.
- Gweithdai gan y coleg ac amser astudio hunangyfeiriedig bob mis.
- Arweiniad gan aseswyr a mentoriaid y coleg.
Bydd dyletswyddau’n datblygu wrth i’ch sgiliau a’ch hyder gynyddu, a gallant gynnwys:
- Cefnogi cleifion gyda gofal personol a gweithgareddau byw bob dydd.
- Cyfathrebu â chleifion, gofalwyr a thimau amlddisgyblaethol.
- Dilyn cynlluniau gofal unigol.
- Cynorthwyo gyda gweithdrefnau clinigol sylfaenol.
- Cymryd mesuriadau sylfaenol cleifion.
- Paratoi ardaloedd clinigol a chyfarpar.
- Cynnal amgylchedd diogel i gleifion, staff ac ymwelwyr.
- Cefnogi arferion atal a rheoli heintiau.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Cymorth a Datblygiad
Byddwch yn cael cymorth gan eich Goruchwyliwr Ymarfer, Tîm yr Academi Prentisiaethau, a chyd-weithiwr trwy gydol eich prentisiaeth. Mae cymorth ychwanegol ar gael trwy’r gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol, Gwasanaeth Llesiant Seicolegol y Staff, a rhwydweithiau
cymorth eraill y Bwrdd Iechyd.
Bydd Adolygiad Gateway yn cael ei gynnal yn ystod y rhaglen i asesu cynnydd a nodi unrhyw anghenion datblygu ychwanegol.
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y Rhaglen Brentisiaeth?
- Rhaid i chi feddu ar TGAU gradd C/4 neu uwch (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg neu Ddiploma Lefel 2/ neu gymhwyster cyfwerth.
- Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn ym mis Medi 2026.
- Bydd angen tystiolaeth ar Ddiwrnod yr Asesu o'ch trefniadau teithio arfaethedig i hwyluso eich presenoldeb yn yr ysbyty a'r coleg. Er enghraifft, os ydych chi'n bwriadu gyrru, byddwch chi'n darparu eich trwydded yrru gyfredol fel tystiolaeth.
- Rhaid bod gennych yr hawl gyfredol i weithio yn y DU a'ch bod wedi byw yn y DU am 3 blynedd.
- Rhaid i chi fod yn ymrwymedig i astudio a gweithio ar yr un pryd, sy'n gofyn am lefel uchel o ymroddiad.
- Ni ddylech fod mewn unrhyw addysg ffurfiol a ariennir gan y llywodraeth ar adeg dechrau'r Rhaglen Brentisiaeth.
- Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf cymhwysedd safonol ar gyfer mynediad i'r rhaglen prentisiaeth sylfaen. Nid yw unigolion sydd eisoes â chymhwyster gradd yn gymwys i gofrestru ar y rhaglen hon.
- Rhaid i chi fod yn unigolyn caredig a gofalgar sy’n frwd dros helpu pobl eraill.
- Rhaid i chi allu amlygu parodrwydd i weithio’n galed.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y cyfle hwn, llenwch y ffurflen gais atodol cyn y dyddiad cau. Yn yr adran o'r enw “Gwybodaeth Ategol” hoffem i chi ateb tri chwestiwn (Defnyddiwch uchafswm o 100 gair am mhob cwestiwn.)
- Pam ydych chi'n gwneud cais am y swydd?
- Pa sgiliau a phrofiad sydd gennych eisoes a fyddai'n eich helpu yn y rôl hon (aliniwch eich ateb i'r cwestiwn hwn â phrif ddyletswyddau'r rôl hon fel yr amlinellir yn y pecyn hysbyseb a phrentis)?
- Beth fydd yn eich gwneud chi'n ddysgwr da, sy'n rhan allweddol o'r rôl Brentis?
Gweler y Canllaw Prentisiaethau atodol am fwy o wybodaeth.
Cynhelir sesiwn wybodaeth rithwir ar y dyddiad canlynol i roi cyfle i chi ymuno a gofyn cwestiynau ynglŷn â'r swydd wag. Cofrestrwch eich diddordeb isod;
- 29/06/2026 - Canllaw Prentisiaeth Gweithwyr Cymorth Nyrsio 2026/ Nursing support Worker Apprenticeship 2026
Ar ôl y dyddiad cau, estynnir gwahoddiad i’r rheiny a fydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn llwyddiannus ddod i ddiwrnod asesu. Bydd y diwrnod asesu yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys cyfweliad a gwaith senario. Bydd y diwrnod asesu yn gyfle i chi gwrdd â staff y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys Tîm yr Academi Brentisiaethau.
Cynhelir y diwrnod asesu ar 12/08/2026.
Os cewch eich recriwtio’n llwyddiannus, byddwch yn dechrau eich cyflogaeth o fod yn Brentis gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hwyr Mis Medi 2026.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i goleddu’r angen am ddwyieithrwydd yn llawn, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy’n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni’r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni’r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Gwybodaeth Atodol
Meini prawf hanfodol
- Pam ydych chi’n gwneud cais am y rôl hon?
- Pa sgiliau a phrofiad sydd gennych eisoes a fyddai’n eich helpu yn y rôl hon? (Cysonwch eich ateb i’r cwestiwn hwn â phrif ddyletswyddau’r rôl hon, fel y’u hamlinellir yn yr hysbyseb a’r pecyn prentisiaid.)
- Beth fydd yn eich gwneud yn ddysgwr da, sy’n rhan allweddol o rôl Prentis?
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- TGAU gradd C/4 neu uwch (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg neu Ddiploma Lefel 2/ neu gymhwyster cyfwerth.
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nicola Fourie
- Teitl y swydd
- Apprenticeship Academy Coordinator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth




