Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Bydwreigiaeth
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (9-5 ar alwad)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR197-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tîm Cymunedol Ceredigion
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 22/07/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 30/07/2025
Teitl cyflogwr

Bydwraig - Cymunedol
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i fydwraig ymuno â Thîm Bydwreigiaeth Cymunedol Gogledd Ceredigion. Mae'r tîm, sy'n gwasanaethu ardal ddaearyddol eang o Dregaron a Cheinewydd yn y de, i Eglwys Fach yn y gogledd, yn gweithio o'i ganolfan yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, yn ogystal â nifer o hybiau cymunedol a meddygfeydd ledled yr ardal.
Mae'r tîm arobryn hwn yn teimlo'n angerddol ynghylch darparu parhad o ran gofalwyr, hyrwyddo dewis, cefnogi geni yn y cartref a hwyluso addysg gynenedigol. Mae aelodau’r tîm yn cefnogi ei gilydd yn fawr ac yn eithriadol o anogol, ac yn credu ei bod yn bwysig meithrin perthnasoedd gwaith agos a dibynadwy yn y tîm er mwyn darparu’r gofal gorau i fenywod a phobl sy’n rhoi genedigaeth. Maent hefyd yn rhoi blaenoriaeth i'w galluogi ei gilydd i ddatblygu a chamu ymlaen yn eu rolau, a chwblhau hyfforddiant ychwanegol i wella eu gwasanaeth.
Mae Ceredigion yn ardal hyfryd yng Ngorllewin Cymru, wedi’i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion. Mae yna draethau tywod, teithiau i weld dolffiniaid, Llwybr Arfordir Cymru a mynyddoedd garw gwledig oll ar garreg y drws. Mae yna amryfal drefi a phentrefi yn ardal tîm Gogledd Ceredigion, sy'n amrywio o gymunedau amaethyddol bach i drefi prifysgol mawr.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Chi fydd y cydlynydd gofal arweiniol ar gyfer menywod a phobl sy'n rhoi
genedigaeth sy'n rhan o'ch llwyth achosion, gan ddarparu gofal unigol yn y cartref ac mewn clinigau cynenedigol cymunedol.
Mae'r tîm yn cefnogi'r uned bydwreigiaeth ac obstetreg yn Ysbyty Bronglais pan fo'r angen yn fawr trwy ddarparu gwasanaeth ar alwad, sydd hefyd yn ei gwneud yn bosibl darparu gwasanaeth geni yn y cartref. Mae addysg gynenedigol yn agwedd bwysig ar y rôl, gan fod y tîm yn cynnig pum opsiwn gwahanol i fenywod a phobl sy’n rhoi genedigaeth.
Byddwch hefyd yn gydlynydd gofal ar gyfer beichiogrwydd risg uchel, gan weithio'n agos gyda'r timau amlddisgyblaethol i sicrhau gwasanaeth di-dor o ansawdd uchel.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 30/07/2025.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Bydwraig Gofrestredig gyda chofrestriad llawn gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Portffolio Datblygiad Proffesiynol Parhaus
- Wedi cwblhau rhaglen breceptoriaeth sydd wedi’i gymeradwyo
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o fentora a datblygu staff.
- Sgiliau TG sylfaenol
- Yn gallu darparu safon uchel o ofal unigol i gleientiaid yn seiliedig ar dystiolaeth
- Cyfathrebwr effeithiol sydd â sgiliau arwain a rhyngbersonol da
- Tystiolaeth o'r gallu i gymryd yr awenau yn absenoldeb eich rheolwr llinell uniongyrchol
- Amlygu sgiliau bydwreigiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth gyfredol
- Amlygu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd archwilio a pholisi
Meini prawf dymunol
- ALSO - Cynnal Bywyd Uwch Obstetreg
- NALS - Cymorth Bywyd Uwch Newyddenedigol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lynn Smith-Hurley
- Teitl y swydd
- Clinical and Operational Lead Midwife
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07795 642203
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth