Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Offthalmoleg
- Gradd
- Band 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR311-1026
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Clinig Llygaid Ffordd y Gogledd
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 08/11/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 18/11/2026
Teitl cyflogwr
Uwch-brif Nyrs (Offthalmoleg)
Band 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle ar gael i ymgeisydd addas sydd â phrofiad rheoli sylweddol weithio fel Uwchbrif Nyrs yng Nghlinig Llygaid Ffordd y Gogledd yn Aberystwyth, Ceredigion. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio mewn uned Offthalmoleg hefyd, er y gellir darparu hyfforddiant os na ellir bodloni’r safon hon.
Mae Clinig Llygaid Ffordd y Gogledd yn cynnig amgylchedd gwaith unigryw gyda chymysgedd o glinigau offthalmoleg, clinigau laser a chlinigau ar gyfer pigiadau llygaid, gan wneud hwn yn gyfle gwych i ddysgu a datblygu. Mae’r uned hefyd yn cwmpasu gweithgarwch ar safleoedd gwahanol, felly gellir disgwyl teithio achlysurol.
Arddel atebolrwydd am reoli’r adran, gan gynnwys arwain a datblygu’r sefydliad nyrsio craidd wrth ddarparu gofal nyrsio tosturiol, effeithiol, o’r radd flaenaf, sy’n canolbwyntio ar y claf; a rheoli pobl mewn modd teg, gonest ac ystyriol.
Darparu arweinyddiaeth, cymorth, goruchwyliaeth ac arweiniad nyrsio gweladwy a phroffesiynol, ynghyd â chyngor clinigol arbenigol, ac ymgymryd â gweithgareddau rheoli a monitro yn ôl gofynion cyfreithiol a phroffesiynol, rheolau statudol a pholisïau’r Bwrdd Iechyd sy’n ymwneud ag ymarfer seiliedig ar dystiolaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gweithio’n annibynnol i gynllunio eich amserlenni gwaith eich hun, gan ystyried eich cyfrifoldebau rheoli dyddiol ac wythnosol, ynghyd â’r agweddau arwain a goruchwylio ar y rôl.
Goruchwylio gwaith proffesiynol a chlinigol y staff nyrsio yn y maes clinigol, gan ddyrannu gwaith yn effeithiol yn seiliedig ar sgiliau a gallu’r staff a gofynion y cleifion, a dirprwyo’r gwaith o ddarparu gofal lle y bo’n briodol, yn unol â fframwaith dirprwyo GIG Cymru, gan sicrhau bod staff yn defnyddio arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Cefnogi staff i gynnal y safonau yng Nghod y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018), a hynny’n rhan o’r broses o ddarparu gofal diogel o’r ansawdd a ddisgwylir gan ddefnyddwyr gwasanaethau a rheoleiddwyr.
Cymryd cyfrifoldeb am amserlennu staff yn effeithiol, er mwyn sicrhau bod gan y ward lefelau sgiliau a staffio effeithiol i ateb y galw; a bod iechyd a lles y staff yn ystyriaeth allweddol sy’n sylfaen i’r amserlenni a lunnir.
Cymryd cyfrifoldeb dros gaffael a chynnal asedau ffisegol a chyflenwadau arbenigol ar gyfer y ward, gan sicrhau costeffeithiolrwydd, e.e. cwblhau ceisiadau cyfalaf, ceisiadau i gronfeydd elusennol.
Cynnal, monitro a gwerthuso safonau, gan sicrhau bod gofal o ansawdd sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cael ei ddarparu gan y tîm clinigol, a herio gyda pharch/chymryd camau priodol pan fo’r safonau gofal yn is na’r hyn sy’n ddisgwyliedig.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol;
- 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd angen i ddeiliad y swydd amlygu gwerthoedd y Bwrdd Iechyd, sef urddas, parch, tegwch, uniondeb, gonestrwydd, didwylledd a natur ofalgar, caredigrwydd a thosturi, a hynny ym mhopeth a wnewch yn yr amgylchedd gwaith, yn ogystal â sicrhau bod eraill yn amlygu'r un gwerthoedd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 18/11/2026
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig (Rhan 1)
- Cofrestriad presennol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gradd Baglor (neu brofiad cyfatebol)
- Diploma ol-raddedig perthnasol (neu ddatblygiad/brofiad cyfatebol YNGHYD a pharodrwydd i ymgymryd a gwaith astudio priodol ar lefel ol-raddedig pan fyddwch yn y swydd)
- IQT Efydd
- Cymhwyster addysgu/hyfforddi (neu brofiad cyfatebol)
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'r rol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster rheoli cydnabyddedig
- Cymhwyster arweinyddiaeth cydnabyddedig
- Profiad o arwain tim
- Gradd meistr mewn pwnc perthnasol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad amlwg a pherthnasol ar lefel Band 6
- Profiad priodol o fewn arbenigedd ac yn gallu dangos gwybodaeth gadarn o arbenigedd perthnasol
- Gallu dangos gwybodaeth gadarn o God yr NMC (2018)
- Profiad ôl-gofrestru profedig a thystiolaeth o gydlynu a rheoli tîm o staff.
- Gallu dangos ymwybyddiaeth o faterion a datblygiadau proffesiynol.
- Tystiolaeth o sgiliau arwain
- Profiad o weithio mewn amgylchedd aml-broffesiynol
- Profiad o reoli cyllideb
- Profiad o reoli staff yn effeithiol
- Profiad o redeg ward/ardal/adran
- Profiad o fentora myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth cyn cofrestru
- Sgiliau TG
- Gallu cysylltu theori ag ymarfer trwy sgiliau myfyriol
- Gwybodaeth dda o ofynion llywodraethu gwybodaeth/diogelu data
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn rol Band 7
- Dealltwriaeth o brosesau ariannol a rheoli adnoddau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Marta Barreiro Martins
- Teitl y swydd
- Senior Nurse Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07815 022127
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth




