Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cleifion Allanol
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (8yb tan 6/7yh)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR366-1125-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/12/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 22/12/2025
Teitl cyflogwr
Nyrs Cofrestredig - Cleifion Allanol
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Nyrs Gofrestredig frwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n tîm Nyrsio sydd wedi'i leoli yn Adran Cleifion Allanol, Ysbyty Cyffredinol Bronglais. Mae yna 2 swydd rhan amser – 22.5 awr yr un.
Rydym yn chwilio am Nyrsys sy'n frwd ac yn llawn cymhelliant ynghylch darparu'r gofal gorau posibl, sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, ac sy'n barod i weithio'n rhan o dîm amlddisgyblaethol ymrwymedig a medrus.
Efallai y bydd yn ofynnol gallu teithio rhwng safleoedd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae’r pedair adran cleifion allanol ledled y Bwrdd Iechyd yn cwmpasu ystod o arbenigeddau megis fasgwlaidd, offthalmoleg, orthopaedeg, meddygaeth gyffredinol, llawfeddygaeth gyffredinol, dermatoleg, y glust, y trwyn a'r gwddf, a gwasanaethau clinigol arbenigol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 22/12/2025.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
-
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
-
Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
-
Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
-
47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
-
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Meini prawf dymunol
- Gradd mewn Nyrsio
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru e.e. Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA)
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru e.e. Amddiffyn Plant
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru e.e. Triniaeth Cynnal Bywyd Ganolradd os yw'n ofynnol mewn lleoliad clinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth cyn-gofrestru o ofal nyrsio uniongyrchol
- Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd
- Diddordeb mewn meithrin sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol
- Rhoi arfer seiliedig ar dystiolaeth ar waith
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Angela Harries
- Teitl y swydd
- Senior Sister
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01970635669
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Prif Nyrs Uwch Siwan Harrison
Adran Cleifion Allanol
01970 635669
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth




