Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radioleg
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00)
Cyfeirnod y swydd
100-NMR102-0426
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£32,557 - £39,631 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
26/04/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
05/05/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Staff Radioleg

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.

Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086

Trosolwg o'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n unol â Chodau Ymddygiad Proffesiynol a Chanllawiau Proffesiynol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth i gynorthwyo Radiolegwyr Ymgynghorol, clinigwyr arbenigol eraill a chyd-weithwyr nyrsio proffesiynol yn ystod gweithdrefnau Diagnostig, Ymyrrol a Therapiwtig, gan gynnal gofal ac urddas cleifion bob amser.

Byddwch yn darparu gofal nyrsio, cyngor a gwybodaeth am weithdrefnau/driniaethau i gleifion sy'n dod i'r adran a hefyd yn esbonio'r triniaethau eraill sydd ar gael. Bod yn eiriolwr dros staff, cleifion a pherthnasau bob amser. Bydd gofyn i chi gwblhau fframwaith cymhwysedd, gan feithrin gwybodaeth a sgiliau yn y maes clinigol. Pan fydd yn gymwys, bydd deiliad y swydd yn gallu sgrwbio'n annibynnol.

Gyda'r hyfforddiant perthnasol, byddwch yn cynorthwyo yn ystod gweithdrefnau diagnostig, ymyriadol a therapiwtig. Byddwch yn arsylwi cleifion sy’n derbyn gweithdrefnau Radioleg, gan weithredu ar unrhyw newidiadau neu ddirywiad yng nghyflwr y claf. Yn ystod gweithdrefnau archwilio, byddwch yn rhoi unrhyw dawelyddion ychwanegol neu gyffuriau meddyginiaeth priodol eraill o dan gyfarwyddyd y Radiolegydd.
Cynorthwyo gyda thriniaethau therapiwtig, heb fawr o oruchwyliaeth. Rhoi pigiadau isgroenol a mewngyhyrol, rhoi cyffuriau mewnwythiennol a gosod canwlâu. Byddwch yn bresennol ar gyfergweithdrefnau/triniaethau brys ac yn rhoi cyngor arbenigol i gleifion, perthnasau a staff gofal iechyd eraill ynghylch gweithdrefnau clinigol ac ymyriadau ym maes Radioleg.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd disgwyl i chi wneud y canlynol:

  •  Cynllunio eich gweithgareddau eich hun o ddydd i ddydd a dyrannu tasgau i Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd a staff Cynorthwywyr Radioleg yn yr Adran.
  • Darparu cymorth a chyfarwyddyd i aelodau eraill o staff y Gyfarwyddiaeth, gan fod yn hawdd siarad â chi, yn empathig ac yn gefnogol.
  • Cynorthwyo'r Nyrs Glinigol i ymchwilio i gŵynion a phryderon.
  •  Nodi a chofnodi unrhyw ddigwyddiadau anffafriol neu glinigol, gan ddefnyddio system DATIX mewn modd amserol.
  • Cymryd rhan mewn gwaith archwilio a chefnogi a gweithredu unrhyw newidiadau angenrheidiol mewn perthynas â gofal cleifion trwy gymryd rhan mewn ymchwil ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth. 
  • Rhannu eich sgiliau barnu eich hun wrth ddarparu gofal cleifion, gan wneud awgrymiadau ar gyfer gwella gwasanaethau. 
  • Cyfathrebu â staff y ward ynghylch y gweithdrefnau paratoi gofynnol cyn archwiliadau, gan sicrhau bod cyfarwyddiadau'n cael eu cyfleu'n glir a bod staff y ward yn eu deall.
  • Trosglwyddo gwybodaeth gyfrinachol sy'n ymwneud â chyflwr cleifion i gyd weithwyr, adrannau eraill yr ysbyty ac, ar adegau, sefydliadau allanol.
  • Cyfleu gwybodaeth sensitif am weithdrefnau clinigol i gleifion, gan roi tawelwch meddwl iddynt wrth egluro'r hyn fydd yn digwydd trwy gydol y driniaeth. 
  • Gall cleifion fod yn drwm eu clyw, yn oedrannus, wedi drysu neu ag anawsterau dysgu, a bydd angen i ddeiliad y swydd oresgyn y rhwystrau hyn gan ddefnyddio tact, empathi a sgiliau trafod.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol;
  •  43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais. 

Cyfweliadau i'w cynnal ar 06/05/2026

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Oedolion Gofrestredig gyda Chofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
  • Gwybodaeth glinigol broffesiynol a gafwyd trwy Radd neu'n meddu ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad hyd at lefel gyfatebol.
  • Gwybodaeth ymarferol am waith tîm amlddisgyblaethol
  • Gwybodaeth am archwilio ac ymchwil
  • Parodrwydd i gwblhau fframwaith cymhwysedd i allu sgrwbio'n annibynnol.
  • Yn meddu ar dystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ôl-gofrestru

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-gymhwyso diweddar
  • Profiad o oruchwylio staff
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn Adran Radioleg

Sgiliau iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Carys-Ann Hornsey
Teitl y swydd
Lead Radiology Nurse
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970613868