Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Hyfforddiant
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR016-0126
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 08/02/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 17/02/2026
Teitl cyflogwr
Hwylusydd Addysg Dadebru a Sgiliau Clinigol
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A hoffech ddatblygu eich sgiliau o ran addysgu a chefnogi ein staff clinigol amlddisgyblaethol rheng flaen i wella'r modd y maent yn adnabod ac yn uwchgyfeirio cleifion sy'n ddifrifol wael?
Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol cofrestredig hyderus a brwdfrydig sy'n gweithio yn y gwasanaethau acíwt ar hyn o bryd.
Mae'n rhaid i chi feddu ar Dystysgrif Cynnal Bywyd Datblygedig gyfredol a gymeradwywyd gan Gyngor Dadebru'r DU.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn dîm bach dynamig a brwdfrydig sy'n frwd dros wella canlyniadau cleifion.
Mae'r tîm yn weithwyr proffesiynol clinigol profiadol iawn, a'u nod yw grymuso'r timau clinigol rheng flaen i fynd ati mewn modd effeithiol i adnabod, rheoli ac uwchgyfeirio cleifion sy'n ddifrifol wael.
Darparu Hyfforddiant Cymorth Cynnal Bywyd Ar Unwaith lefel 3 ac addysg ar y wardiau i faes eang o staff clinigol yng Ngheredigion ac, yn achlysurol, ar draws y Bwrdd Iechyd.
Monitro safonau ymarfer a chyfarpar.
Cefnogi'r meysydd clinigol gyda'u cynlluniau gwella ansawdd mewn ymateb i'r Rhaglen Dirywiad Acíwt.
Lleolir y swydd hon yn bennaf yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, ond efallai y bydd angen teithio i ysbytai eraill o fewn Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 17/02/2026
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
-
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
-
Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
-
Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
-
47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
-
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig Lefel 1 (RGN Oedolion)
- Diploma ol-raddedig neu wybodaeth arbenigol gyfatebol/brofiad ol-gofrestru mewn maes arbenigol perthnasol
- Yn meddu ar dystysgrif darparwr Cymorth Cynnal Bywyd Datblygedig gan Gyngor Dadebru'r DU
Meini prawf dymunol
- BSc
- TAR
- Hyfforddwr EPLS ac ALS
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad clinigol mewn gofal aciwt
- Tystiolaeth o gyfraniadau blaenorol at ddatblygu ymarfer clinigol
- Tystiolaeth o gyfraniadau blaenorol at hyfforddiant ac addysg
Meini prawf dymunol
- Profiad o gyflawni gwaith archwilio ac ymchwil
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- David Wastell
- Teitl y swydd
- Acute Deterioration & Resuscitation Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07395082077
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth




