Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cardioleg
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-NMR334-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£48,527 - £55,532 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
09/11/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
20/11/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ymarferydd Cardioleg Arbenigol(Nyrs/Gwyddor Iechyd/Perthynol i Iechyd)

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Bydd eich rôl yn cynnwys:

- Sefydlu a darparu clinigau dan arweiniad annibynnol, yn cynnwys clinigau wyneb yn wyneb a rhithwir. Lle bo hynny'n ofynnol ar gyfer y rôl hon, defnyddio sgiliau asesu uwch a allai gynnwys cymwyseddau a sgiliau asesu a diagnosio clinigol

- Bod yn arweinydd ymarfer, sy'n rheoli ei lwyth gwaith ei hun ac yn gweithio ar draws ffiniau proffesiynol, sefydliadol, asiantaethau a systemau i wella gwasanaethau a datblygu ymarfer seiliedig ar dystiolaeth

- Gwella'r broses o reoli cleifion trwy wneud y gorau o ymchwiliadau a thriniaethau, a all gynnwys cychwyn, titradu a/neu bresgripsiynu meddyginiaethau a therapïau, gan weithio'n unol â chanllawiau a rheoliadau cyfredol y Bwrdd Iechyd a phroffesiynau penodol

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd gofyn i chi:

- Mynd ati'n annibynnol i gyflawni llwyth achosion o gleifion ag anghenion cymhleth iawn, gan ddefnyddio egwyddorion seiliedig ar dystiolaeth sy’n canolbwyntio ar y cleient i ddadansoddi'n feirniadol, asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso ymyriadau. Bydd hyn yn cynnwys addysg, hybu iechyd, a chymorth yn achos pob agwedd ar gynllun trin a rheoli y claf.

- Cydweithredu ag aelodau eraill o'r tîm amlddisgyblaethol ledled llwybrau a lleoliadau gofal gwahanol i sicrhau bod anghenion gofal iechyd cleifion yn cael eu diwallu. Bydd hyn yn cynnwys gwerthuso'r gwasanaeth presennol yn barhaus a myfyrio ar eich ymarfer eich hun. 

- Bod yn adnodd arbenigol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ledled nifer o leoliadau, monitro a chefnogi gwasanaethau, a chymryd rhan yn y broses o lunio llwybrau, ymchwil addysg ac archwilio, gan hefyd fynd ati'n barhaus i feithrin a diweddaru'r wybodaeth a'r sgiliau tra arbenigol sy'n ofynnol ar gyfer y rôl.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

 

Cynhelir y cyfweliadau ar 20/11/2025

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o
  • fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gweithiwr Cofrestredig Perthynol i Iechyd. Gwyddor Iechyd Professiynol neu Nyrs neu'n meddu ar dystiolaeth o gofrestriad perthnasol
  • Gradd perthnasol
  • Cwrs cardiaidd ôl-raddedig perthnasol ar lefel 7 neu gymhwyster cyfatebol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth mewn perthynas â chanllawiau clinigol allweddol, e.e. NICE, a'r modd y bydd y rhain yn dylanwadu ar ymarfer clinigol
  • Gradd MSc gysylltiedig neu'r gallu i amlygu profiad a sgiliau arbenigol cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster addysgu cydnabyddedig
  • Modiwl asesu clinigol a diagnostig neu barodrwydd i ymgymryd â hynny yn unol â gofynion y rôl
  • Cymhwyster arweinyddiaeth
  • Cymhwyster Gwella Ansawdd
  • Cymhwyster cwnsela
  • Presgripsiynu Anfeddygol neu ymrwymiad i gwblhau'r cymhwyster fel rhan o'r rol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-gofrestru helaeth sy'n cynnwys gweithio mewn un neu ragor o lwybrau cardiaidd
  • Profiad o gynnal clinigau dan arweiniad nyrsys
  • Profiad o gynnal sesiynau addysg cleifion
  • Sgiliau cyflwyno
  • Ysgrifennu adroddiadau
  • Profiad o gynnal ymchwil neu archwiliad
  • Profiad arweinyddiaeth a rheolaeth
  • Multi-disciplinary working experience
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio yn gofal sylfaenol
  • Profiadau blaenorol o weithio mewn rôl arbenigol
  • Profiadau blaenorol yn y prosiectau newid gwasanaeth

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sarah Williams
Teitl y swydd
Senior Nurse Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227688
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

I drefnu ymweliad anffurfiol, cysylltwch â Sarah Williams Rheolwr Prif Nyrs 01267 235151 bleep 890