Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Deintyddol
- Gradd
- Band 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS130-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Hafan Derwen
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £27,898 - £30,615 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 28/09/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 08/10/2025
Teitl cyflogwr

Nyrs Ddeintyddol Gymwys
Band 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Ar hyn o bryd mae gennym gyfle i Nyrs Ddeintyddol Gymwysedig frwdfrydig a hyblyg ymuno â thîm deintyddol llawn cymhelliant, proffesiynol a chefnogol i ddarparu Gofal Deintyddol i bobl Sir Gaerfyrddin.
Lleolir y swydd yn ein clinig presennol yng Nghaerfyrddin ond bydd y clinig yn symud i'r HWB newydd yng Nghaerfyrddin ddechrau 2026. Fodd bynnag, mae'r gallu i deithio ar draws safleoedd mewn modd
amserol yn hanfodol. Mae'r rôl yn amodol ar DBS llwyddiannus a Sgriniad Iechyd Galwedigaethol.
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol.
Cynhelir y cyfweliadau ar 8/10/25
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y Nyrs Ddeintyddol yn gyfrifol am ddarparu sgiliau Nyrsio Deintyddol Cyffredinol i gefnogi clinigwyr i gyflenwi Gofal Deintyddol a Gofal Iechyd y Geg i gleifion.
Dylai fod gennych brofiad helaeth o fod yn Nyrs Ddeintyddol Gymwysedig, a dylech fod yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da, ynghyd â'r gallu i weithio'n hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gydlynu'r gwasanaethau deintyddol yn y clinigau sefydlog.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Ddeintyddol gymwys neu gymhwysedd amlwg trwy brofiad cyfatebol/gymhwyster lefel diploma yr NEB
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol
- Gwybodaeth am Lywodraethu Clinigol ac Archwilio Clinigol
Meini prawf dymunol
- Tystysgrif Addysg Iechyd y Geg gydnabyddedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddarparu cymorth clinigol i ddeintyddion a/neu therapyddion
- Coladu data
- Rheoli stoc Addysg Iechyd y Geg
- Gwaredu gwastraff mewn modd diogel
Meini prawf dymunol
- gweithio o fewn gwasanaeth deintyddol cymunedol
- Tawelydd ymwybodol, Anesthesia Cyffredinol, deintyddiaeth anghenion arbennig, orthodonteg, technegau labordy a radiograffeg.
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Catherine Raymond
- Teitl y swydd
- Dental Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07345446422
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Informal visits are welcome during the working hours 9-5pm
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth