Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Diabetes
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
100-NMR345-1125
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
13/11/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
19/11/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Diabetes Arbenigol

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Nyrs Arbenigol Clefyd y Siwgwr Band 6 i ymuno â Gwasanaeth Clefyd y Siwgwr yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Bydd cwblhau  cymwysterau TREND-UK yn llwyddiannus yn ofynnol, ynghyd â phrofiad mewn nyrsio clefyd y siwgwr.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos gwybodaeth am nyrsio diabetes, asesiad clinigol diabetes a chyflwyno rhaglenni addysg diabetes penodol i gleifion a staff. 

Rydym yn dîm diabetes bach cyfeillgar ac yn gefnogol i ddatblygiad yn y rôl ac yn croesawu aelodau newydd o'r tîm sy'n dymuno datblygu eu gyrfa mewn nyrsio arbenigol diabetes.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 19/11/2025.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:
•    Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd 

  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig (Rhan 1) o gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Gradd Baglor neu cymhwyster cyfatebol neu brofiad cyfatebol
  • Gwybodaeth ym maes gofal diabetes, ac ymarfer amlwg
  • Ymrwymiad i hyfforddiant a datblygiad pellach sy'n hanfodol ar gyfer y rôl arbenigol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster addysgu
  • Gwybodaeth am ymchwil ac archwilio
  • Ymwybyddiaeth o Lywodraethu Clinigol
  • Wedi cael hyfforddiant DAFNE

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-gofrestru o weithio ym maes gofal diabetes i lefel diploma ôl-raddedig
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio ym maes gofal sylfaenol neu gymunedol, diabetes a beichiogrwydd ar gyfer diabetes yn ystod beichiogrwydd a diabetes sy'n bod yn barod, pympiau inswlin a thechnoleg diabetes

Sgiliau iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Ravinder Dosanjh
Teitl y swydd
Senior Lead Clinical Diabetes Nurse Specialist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07966 554125
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Amanda Hunter or Esther Turner - Nyrsys Diabetes Arbenigol Arweiniol

[email protected]  07811 711920

[email protected]  01267227746

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg