Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Endosgopi
- Gradd
- Gradd 8a/ Annex 21
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR241-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ledled y Bwrdd Iechyd
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £56,514 - £63,623 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 13/08/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 18/08/2025
Teitl cyflogwr

Endosgopydd Clinigol
Gradd 8a/ Annex 21
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae’r rôl hon yn gyfle cyffrous i Endosgopydd Clinigol hyfforddedig ymuno â Thîm Endosgopi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan weithio ar draws pedair uned endosgopi (y mae tair ohonynt wedi’u hachredu’n llawn gan y Grŵp Cynghori ar y Cyd).
Mae'r hysbyseb hon yn ceisio denu ymgeiswyr cymwys neu ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn dechrau hyfforddi i fodloni'r cymhwyster a'r sgiliau ar gyfer rôl Band 8a. Bydd yr ymgwisydd llwyddiannus yn cael ei benodi o dan reolau Atodiad 21 Cymru Gyfan.
Mae hyn yn golygu y byddant yn cael eu cefnogi gan gynllun datblygu. (Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd y taliad yn 65% o'r gyfradd cyflog uchaf ym Mand 8a, 70% yn ystod yr ail flwyddyn a 75% yn ystod y trydydd flwyddyn) ac ar ôl llwyddo i ennill y cymhwyster, bydd deiliad y swydd wedyn yn cael ei dalu ar Fand 8a (pwynt isaf y raddfa). Darperir cymorth a goruchwyliaeth er mwyn datblygu'r ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y rôl Band 8a. Gallai peidio â chyflawni'r cymhwyster a'r cymwyseddau gofynnol yn unol â'r amserlen ddynodedig arwain at adleoli.
Fel rhan o broses Atodiad 21, nid oes cosb ariannol i’r rhai sy’n gwneud cais am y rôl hon lle bydd y ganran yn achosi gostyngiad mewn cyflog, ac o ganlyniad byddai amddiffyniad lleol yn cael ei roi ar waith nes bod y cyflog wedi dal i fyny.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ymgymryd ag hyfforddiant i:
- Cyflawni triniaethau endosgopi gastroberfeddol yn annibynnol. Mae'r triniaethau hyn yn gofyn am ardystiad arbennig a hyfforddiant arbenigol gan y Grŵp Cynghori ar y Cyd (JAG) ar Endosgopi, a byddant yn cael eu cynnal yn unol â safon Uwchymarferwyr Meddygol achrededig y Grŵp Cynghori ar y cyd.
- Gwneud diagnosis a thrin amrywiaeth o gyflyrau anfalaen a malaen yn annibynnol, a hynny'n aml yn rôl y prif glinigydd endosgopi ar y safle.
- Rheoli eich llwyth achosion eich hun o gleifion Gastroenteroleg yn annibynnol, gan ddarparu gwasanaeth diagnostig a therapiwtig ymreolaethol.
- Ymarfer ac amlygu lefelau arbenigol o farn glinigol, disgresiwn a gwneud penderfyniadau clinigol. Bod yn gyfrifol am wneud diagnosis o gyflyrau gastroberfeddol anfalaen a malaen, a thrafod canfyddiadau archwiliadau o'r fath â'r cleifion a chynllunio dulliau priodol o reoli cleifion.
- Cyflawni gwaith archwilio ac ymchwil a fydd yn gwella safonau gofal cleifion yn uniongyrchol ac yn cael effaith arnynt.
- Addysgu endosgopyddion dan hyfforddiant, a fydd yn cynnwys Endosgopyddion Clinigol eraill yn ogystal ag Uwch-feddygon Meddygol a Llawfeddygol (ar lefel Cofrestrydd a Meddyg Ymgynghorol).
- Darparu gwasanaethau addysgu ac addysg ar gyfer y gweithlu nyrsio endosgopi.
- Gweithio ar draws pedwar piler ymarfer uwch ac yn gallu amlygu hynny yn y maes ymarfer a chynnal portffolio o dystiolaeth.
- Gweithio tuag at gymhwyster Presgripsiynydd Anfeddygol annibynnol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 18/08/2025.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig: e.e. cofrestriad gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) neu'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) (neu gofrestriad perthnasol arall e.e. y Gofrestr Wirfoddol a Reolir ar gyfer Cymdeithion Meddygol (PAMVR))
- Addysg lefel meistr mewn ymarfer uwch a/neu endosgopi
- Endosgopydd wedi’i achredu gan y Grŵp Cynghori ar y Cyd
- Presgripsiynydd annibynnol (i'w gyflawni cyn pen 18 mis ar ôl dechrau'r swydd)
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Mentora/Addysgu
- Wedi cwblhau cwrs Hyfforddi'r Hyfforddwr y Grŵp Cynghori ar y Cyd
- Tystysgrif atgyfeirio radioleg anfeddygol (yn gweithio tuag at hynny)
- Aelod o gyfadran ENDO y Grŵp Cynghori ar y Cyd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth/gwybodaeth nyrsio gyffredinol mewn perthynas â nyrsio gastroberfeddol a nyrsio'r colon a'r rhefr
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol/ddatblygu gwasanaethau
- Profiad cadarn o weithio yn yr amgylchedd endosgopi ar lefel uwchglinigydd
- Profiad o roi JAG/GRS ar waith
- Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith a rhoi cyfarwyddyd i gydweithwyr
- Y gallu i reoli amser mewn modd effeithiol
- Y gallu i weithio mewn tîm amlddisgyblaethol mawr
- Y gallu i addasu i amgylchedd gwaith sy'n newid
- Yn hyderus o ran sgiliau TG
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn rôl endosgopydd wedi’i achredu gan y Grŵp Cynghori ar y Cyd
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Emilia Jurgielewicz
- Teitl y swydd
- Senior Nurse Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07815480745
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth