Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Eiddilwch
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-ACS238-1125
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£27,898 - £30,615 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
17/11/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
26/11/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ymarferydd Cynorthwyol Nyrsio (Acíwt a'r Gymuned)

Gradd 4

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae rôl datblygu newydd a chyffrous wedi dod ar gael i ymuno â'r tîm fel Ymarferydd Cynorthwyol yn gweithio'n rhan o'r tîm ar Ward Cadog yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Mae Ward Cadog yn ward feddygol gyffredinol ag 20 o welyau sy'n arbenigo mewn Eiddilwch. Mae'r ward yn cynnwys 14 gwely eiddilwch aros byr ac uned asesu â 6 gwely.

Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod â diddordeb brwd mewn gofal yr henoed, eiddilwch a dementia, a bod wedi ymrwymo i ddarparu gofal o safon uchel i gleifion. Os cewch eich penodi, gallwch edrych ymlaen at weithio mewn amgylchedd proffesiynol, a hynny gyda thîm sy'n teimlo'n angerddol ynghylch darparu gofal rhagorol i'n cleifion. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae angen Cymhwyster galwedigaethol Lefel 4 mewn pwnc perthnasol cysylltiedig a gofal iechyd neu Tystysgrif mewn Addysg Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais. 

Dyma swydd llawn amser, er hyn ystyriwn rhan amser 

Cynhelir y cyfweliadau ar  26/11/2025

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd  
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Manyleb y person

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster galwedigaethol lefel 4 mewn pwnc perthnasol cysylltiedig a gofal iechyd neu Tystysgrif mewn Addysg Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd
  • TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch neu gymhwyster sgiliau hanfodol cyfatebol lefel 2 neu uwch
  • Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus sy'n berthnasol i'r rol ym maes gofal iechyd
  • Yn gallu amlygu dealltwriaeth o God Ymddygiad Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Dirprwyo, a Fframwaith Llywodraethu Ymarferwyr Cynorthwyol Band 4 Cymru Gyfan
  • Gwybodaeth glinigol sy'n berthnasol i'r rol
  • Yn amlygu dealltwriaeth o bwysigrwydd dilyn gweithdrefnau a chynlluniau triniaeth
  • Yn amlygu dealltwriaeth o'r deddfwriaethau sy'n berthnasol i Ddiogelu, e.e. oedolion a plant, Y Ddeddf Galluedd Meddyliol, a threfniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid, er mwyn cadw oedolion sydd o dan ei ofal yn ddiogel
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth leol am wasanaethau statudol neu wirfoddol
  • Cymhwyster addysgu neu asesu

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol a diweddar o ddarparu gofal clinigol perthnasol
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu, ynghyd a'r gallu i reoli a leddfu sefyllfaoedd heriol neu fygythiol
  • Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. gofalu am gathetr - gan gynnwys tynnu cathetr
  • Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. monitro a chofnodi arsylwadau bywyd a dehongli'r canlyniadau
  • Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. adolygu asesiadau risg
  • Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. monitro a dehongli glwcos gwaed
  • Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. Profiad o gefnogi nyrs gofrestredig gyda gofal clwyfau
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn perthynas ag amrywiaeth o sgiliau clinigol, yn cynnwys gofal lliniarol
  • Yn achos rolau cymunedol: profiad o ddarparu gofal mewn lleoliad gofal cymunedol neu ofal sylfaenol
  • Rhoi meddyginiaethau trwy'r geg, ar gyfer y croen, yn isgroenol a thrwy fewnanadlu
  • Sgiliau o ran gofal clwyfau nad ydynt yn gymhleth

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Donna Major
Teitl y swydd
Ward Sister
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 229 677
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Cherie Piecko - Prif Nyrs Iau

neu

Rachel Sillars - Prif Nyrs Iau

01267 229677

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg