Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Eiddilwch
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Mae oriau llawn a rhan amser amrywiol ar gael.
Cyfeirnod y swydd
100-ACS164-0726
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwilli
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£26,813 - £27,890 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
Today at 23:59
Dyddiad y cyfweliad
28/07/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweithiwr Cymorth Nyrsio

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Weithiwr Cymorth Nyrsio Band 3 ar Ward Dewi, yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin.

Mae'r swydd yn gyfle i feithrin eich sgiliau a'ch profiad o ran gofalu am gleifion eiddil.Mae Dementia ac eiddilwch yn her gynyddol ym maes gofal iechyd, ac rydym ni, weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ar flaen y gad wrth ddarparu'r urddas, y cymorth a'r gofal y mae pobl yn eu haeddu. Nod y rôl hon yw gwella profiad y claf. Byddai disgwyl i chi hyrwyddo annibyniaeth y cleifion trwy ganolbwyntio ar eu symudedd, eu maeth a'u hydradiad er mwyn cynnal a gwneud y gorau o'u gallu gweithredol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Dylai deiliad y swydd feddu ar NVQ lefel 3 mewn Iechyd neu gymhwyster cyfatebol. Bydd angen iddo ddangos bod ganddo sgiliau cyfathrebu da, a'i fod yn gallu gweithio'n rhagorol mewn tîm yn ogystal ag ar ei ben ei hun. Disgwylir iddo weithio ochr yn ochr â'r tîm nyrsio a'r tîm therapïau.

Bydd y swydd yn cynnwys gweithio saith niwrnod yr wythnos, gyda dyletswyddau ddydd a nos.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 28/07/2026.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc cysylltiedig â gofal iechyd Neu Brofiad cyfatebol a bydd yn gallu dangos tystiolaeth o gymhwysedd seiliedig ar waith ac arddangos gwybodaeth ddamcaniaethol. Bydd yn gallu cyflawni dyletswyddau gofal clinigol sy'n berthnasol i'r rôl a enillir drwy brofiad a hyfforddiant seiliedig ar waith/cyrsiau byr
  • Gwybodaeth am y Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru a Chanllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan (AaGIC)
  • Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau perthnasol yn y lleoliad gofal iechyd er enghraifft egwyddorion Diogelu oedolion/plant i gadw cleifion yn eu gofal yn ddiogel, a chyfrinachedd er enghraifft y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol, gan ddarparu gofal uniongyrchol i gleifion
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio gyda grwpiau cleifion sy'n berthnasol i faes yr ymarfer
  • Profiad o weithio yn y GIG

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf dymunol
  • Sgiliau Cymraeg (Level 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Raymond Davies
Teitl y swydd
Charge Nurse
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227329