Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gynaecoleg
- Gradd
- Band 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Oriau clinig 8am-4pm, Dydd Llun i Dydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS239-1125
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/11/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 24/11/2025
Teitl cyflogwr
Gweithiwr Cymorth Nyrsio – Cleifion Allanol
Band 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael ar gyfer Gweithiwr Cymorth Nyrsio Band 3 yn Adran Cleifion Allanol Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Gan weithio dan ddirprwyaeth a goruchwyliaeth y Nyrs Gofrestredig, bydd y Gweithiwr Cymorth Nyrsio yn ymgymryd â chyfrifoldebau diffiniedig sy'n briodol i'r rôl yn lleoliad y gweithle. Bydd yn cydymffurfio â pholisïau, protocolau a chanllawiau'r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod gwasanaeth effeithlon ac effeithiol yn cael ei ddarparu.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau nyrsio neu fydwreigiaeth statudol, ond dylech amlygu agwedd ofalgar, a meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i weithio mewn tîm. Bydd yn ofynnol bod deiliad y swydd hon yn gallu cynorthwyo ar safleoedd eraill yn y Bwrdd Iechyd, yn ôl y gofyn.
Bydd y tasgau o ddydd i ddydd yn cynnwys hebrwng, dihalogi cyfarpar, a darparu cymorth i gleifion sy'n cael triniaethau.
Gweithio'n rhan annatod o'r tîm amlddisgyblaethol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ymgymryd â thasgau dirprwyedig mewn perthynas â'r amgylchedd clinigol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r Bwrdd Iechyd, er mwyn cynnal safonau uchel o ran gofal cleifion.
Paratoi'r amgylchedd clinigol, sy'n cynnwys sicrhau bod cyfarpar yn cael ei lanhau a'i ddihalogi'n briodol a'i fod yn addas i'r diben.
Bod yn ymwybodol o anghenion corfforol, cymdeithasol a meddyliol cleifion, a gallu rhoi gwybod i'r nyrs gofrestredig am bryderon.
Ymgymryd ag amrywiaeth o driniaethau sy'n berthnasol i'r maes cyfrifoldeb clinigol ac o fewn terfynau eich cymhwystra.
Cefnogi'r broses o gasglu a chofnodi gwybodaeth sy'n berthnasol i gyflwr y claf.
Cefnogi'r nyrsys cofrestredig i gyflawni'r Safonau Gofal Iechyd.
Yn unol â pholisïau'r Bwrdd Iechyd, mae'n ofynnol i holl weithwyr y Bwrdd Iechyd gynnal cyfrinachedd yn achos aelodau'r cyhoedd a chleifion, defnyddwyr y gwasanaethau, ac aelodau o'r staff.
Mae'r cyfrinachedd gwybodaeth hwn yn berthnasol yn ystod oriau gwaith a'r tu allan i oriau gwaith.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Rhoi gwybod am ddigwyddiadau anffodus, e.e. cwynion, damweiniau, cyfarpar diffygiol.
Mynd i ddiwrnodau astudio perthnasol i hybu datblygiad a gwybodaeth. Ymgymryd â hyfforddiant gorfodol, yn ôl y gofyn.
Cyfathrebu'n effeithiol â chleientiaid, perthnasau, aelodau o'r tîm, a gweithwyr proffesiynol eraill.
Hybu a chefnogi hawliau, cyfrifoldebau ac amrywiaeth unigolion a'u teuluoedd, ac amlygu caredigrwydd ac empathi at bawb dan sylw.
Lle bo hynny'n briodol, cyrchu canlyniadau cleifion o systemau TG yr ysbyty, e.e. Porth Clinigol Cymru, Myrddin.
Sicrhau bod stoc yn cael ei gylchdroi, ac ailstocio ardaloedd clinigol yn ôl yr angen
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 24/11/2025
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc cysylltiedig â gofal iechyd Neu Brofiad cyfatebol a bydd yn gallu dangos tystiolaeth o gymhwysedd seiliedig ar waith ac arddangos gwybodaeth ddamcaniaethol. Bydd yn gallu cyflawni dyletswyddau gofal clinigol sy'n berthnasol i'r rôl a enillir drwy brofiad a hyfforddiant seiliedig ar waith/cyrsiau byr
- Gwybodaeth am y Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru a Chanllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan (AaGIC)
- Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau perthnasol yn y lleoliad gofal iechyd er enghraifft egwyddorion Diogelu oedolion/plant i gadw cleifion yn eu gofal yn ddiogel, a chyfrinachedd er enghraifft y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol, gan ddarparu gofal uniongyrchol i gleifion
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda grwpiau cleifion sy'n berthnasol i faes yr ymarfer
- Profiad o weithio yn y GIG
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Iaith Gymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jorden Beecher
- Teitl y swydd
- Senior Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227784
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Natalie Louise Rees, Junior Sister - [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth




