Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Haematoleg
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR401-1225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 06/01/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 15/01/2026
Teitl cyflogwr
Prif Nyrs
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Brif Nyrs Band 6 ymuno â'r tîm nyrsio ar Ward Steffan yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Mae Steffan yn ward Feddygol Gyffredinol 18 gwely sy'n arbenigo mewn Gastroenteroleg/ Haematoleg.
Mae hwn yn gyfle delfrydol i ddatblygu eich gyrfa gan y byddwch yn cynyddu eich gwybodaeth a'ch sgiliau clinigol, yn broffesiynol ac yn rheolaethol, ac yn gweithio'n agos gyda'r tîm amlddisgyblaethol mewn amgylchedd cadarnhaol a heriol. Bydd angen i chi amlygu'r gallu i arwain y tîm, a hynny gyda phwyslais cadarn ar gadw'r cleifion wrth wraidd popeth a wnawn.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn aelod brwdfrydig o'r tîm, feddu ar brofiad diweddar ym maes Cardioleg/Endocrinoleg, a bod â'r gallu i ddarparu gofal o safon uchel bob amser.
Mae tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus yn hanfodol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn cynorthwyo'r Uwch-brif Nyrs i ddatblygu polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol ar gyfer ei maes cyfrifoldeb, gan sicrhau eu bod yn bodloni meini prawf cenedlaethol, lleol a phroffesiynol, a'u dwyn i sylw'r Uwch-reolwr Nyrsio i gytuno arnynt cyn eu cyflwyno i'w cadarnhau.
Cyfuno ymarfer clinigol rhagorol â'r gwaith o ddydd i ddydd o gydgysylltu shifftiau, ynghyd ag ymgymryd â chyfrifoldebau arwain a rheoli i gefnogi'r Uwch-brif Nyrs.
Cydweithio â'r Uwch-brif Nyrs, a'i chefnogi'n barhaus, gan ddirprwyo/ofalu am y maes/tîm clinigol yn absenoldeb yr Uwch-brif Nyrs.
Darparu sgiliau rheoli ac arwain goruchwyliol mewn amgylchedd clinigol sy'n gymhleth a lle ceir pwysau mawr.
Darparu arweinyddiaeth ac arweiniad nyrsio proffesiynol (yn unol â safonau'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth) a chyngor clinigol, yn ogystal ag ymgymryd â gweithgareddau rheoli a monitro i sicrhau y cynhelir safonau uchel bob amser mewn perthynas â gofal nyrsio.
Gweithio ochr yn ochr ag aelodau'r tîm nyrsio, gan roi cymorth i gyd-weithwyr iau wrth iddynt ddarparu gofal uniongyrchol.
Cyfrannu mewn modd rhagweithiol at weithredu Safonau ar gyfer Addysg (2018) y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, gan gynnwys y safonau ar gyfer goruchwylio ac asesu myfyrwyr.
Arwain a bod yn esiampl mewn perthynas â datblygu a mentora staff newydd a staff eraill.
Amlygu gwerthoedd y Bwrdd Iechyd ym mhopeth y byddwch yn ei wneud yn yr amgylchedd gwaith.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
-
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
-
Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
-
Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
-
47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
-
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 15/01/2026.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig (Rhan 1)
- Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gradd Baglor (neu profiad cyfatebol)
- Diploma ol-raddedig perthnasol (neu ddatblygiad/ profiad cyfwerth A pharodrwydd i ymgymryd ag astudiaeth ol-raddedig briodol pan yn y swydd)
- IQT Efydd
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu (neu brofiad cyfwerth)
- Cymhwyster rheoli cydnabyddedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad priodol o'ch arbenigedd a'r gallu i amlygu gwybodaeth gadarn am yr arbenigedd perthnasol
- Y gallu i amlygu gwybodaeth gadarn am God y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2015)
- Profiad o weithio mewn amgylchedd amlbroffesiynol
- Profiad o redeg ward/ardal/adran
- Profiad o weithio gyda myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth cyn-gofrestru
- Profiad o addysgu a mentora myfyrwyr nyrsio neu fyfyrwyr bydwreigiaeth cyn-gofrestru, a hynny mewn modd ffurfiol/anffurfiol
- Dealltwriaeth o'r agenda nyrsio a gofal iechyd ehangach
- Sgiliau TG
- Sgiliau rheoli goruchwylio
- Gallu cysylltu theori yn ymarferol drwy sgiliau myfyriol
Meini prawf dymunol
- Profiad o gydlynu tim
- Profiad o hwyluso dysgu yn ystod ymarfer, ac o ganlyniad iddo
- Profiad blaenorol o arwain a rheoli
- Ymwybyddiaeth o faterion cyfoes ym maes nyrsio ac yn eich arbenigedd
- Ymwybyddiaeth o reolaeth ariannol a rheoli adnoddau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lisa Harries
- Teitl y swydd
- Senior Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227950
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth




