Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Yr Uned Therapi Dwys (ITU)
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 23 awr yr wythnos (Gwaith dydd Llun i Ddydd Gwener, amrywiaeth o weithio cynnar, gweithio hwyr ac/neu ddiwrnodau hir)
Cyfeirnod y swydd
100-NMR249-0825
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
26/08/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
03/09/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Addysgwr Ymarfer Clinigol Gofal Critigol

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae'r swydd hon ar gyfer Addysgwr Ymarfer Clinigol Gofal Critigol yn gyfle gwych i nyrs Uned Therapi Dwys brofiadol sydd wedi gweithio ar lefel band 6 neu sydd â phrofiad o gydlynu uned. Mae angerdd a brwdfrydedd dros ddatblygiad staff ac addysg yn hanfodol; bydd arnoch angen sgiliau cyfathrebu rhagorol ochr yn ochr â'r gallu i weithio'n annibynnol gan orfod rheoli eich dyddiadur i gefnogi tîm yr Uned Therapi Dwys orau.

Mae hon yn swydd rhan-amser (23 awr yr wythnos).

Bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili gyda'r posibilrwydd o gyflenwi yn Ysbyty'r Tywysog Philip.

Prif ddyletswyddau'r swydd

O fod yn addysgwr ymarfer clinigol, byddwch yn gyfrifol am:

- Gydlynu a darparu rhaglenni ymsefydlu staff newydd, diwrnodau astudio gorfodol, addysg, hyfforddiant, ac am gefnogi staff i gyflawni'r Fframwaith Cymwyseddau Fesul Cam. Byddwch hefyd yn cadw cofnodion hyfforddiant staff ac yn cyflwyno adroddiadau ar hyfforddiant.

- Mynychu cyfarfodydd gwella gwasanaethau lleol a chefnogi'r broses o weithredu a gwerthuso arfer arloesol.

- Gweithio'n glinigol gyda nyrsys iau i'w cefnogi i gyflawni cymwyseddau cam un.

- Cefnogi tîm yr addysgwyr ymarfer i ddarparu diwrnodau astudio gorfodol. Darparu addysg a hyfforddiant ad hoc wrth ymyl y gwely i staff. Cefnogi staff uwch i gyflawni Cymwyseddau Camau 2 a 3.

- Gweithio gyda'r tîm amlddisgyblaethol i fodloni safonau GPICS a chefnogi'r broses o weithredu ymarfer arloesol sy'n arwain at gyflawni gofal clinigol rhagorol o ansawdd uchel i gleifion.

- Cadw cofnodion hyfforddiant staff ac am gyflwyno adroddiadau ar hyfforddiant i reolwr yr addysgwyr ymarfer.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd  
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar  3/9/2025

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig
  • Addysg hyd at Lefel Gradd
  • Tystiolaeth o astudiaethau ôlgofrestru ym maes nyrsio Gofal Critigol hyd at lefel diploma neu lefel gyfatebol
  • Gwybodaeth gyfredol am agendâu lleol a chenedlaethol
  • Gwybodaeth am weithredu newid
  • Y gallu i gymhwyso polisïau lleol a chenedlaethol i ymarfer
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol ragorol
  • Yn gyfarwydd â'r canllawiau arfer gorau diweddaraf
  • Tystiolaeth o ymarfer a datblygiad seiliedig ar dystiolaeth
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster addysgu ôl-raddedig (TAR)
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol pellach
  • Yn gweithio tuag at MSc (lefel 7)
  • Tystiolaeth o gwrs rheoli cydnabyddedig
  • Cwrs arweinyddiaeth
  • IQT Arian
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaethau a chanllawiau priodol y llywodraeth
  • Gwybodaeth am systemau darparu gwasanaethau ym maes gofal iechyd

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-gofrestredig sylweddol ym maes Gofal Critigol ar lefel Band 6 a/neu brofiad mewn perthynas â chydlynu shifftiau Uned Therapi Dwys yn absenoldeb prif nyrs Band 6/7
  • Prawf o ofal nyrsio o safon uchel
  • Tystiolaeth o gymryd rhan mewn prosesau Gwella Ansawdd
  • Tystiolaeth o gymryd rhan mewn addysgu ffurfiol ac anffurfiol ac mewn datblygu sgiliau clinigol ym maes Gofal Critigol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o arwain tîm
  • Profiad o archwilio/werthuso
  • Profiad o'r broses recriwtio/gyfweld
  • Profiad o gymryd rhan mewn adrodd am ddigwyddiadau ac ymchwilio iddynt
  • Profiad o gymryd rhan yn y broses PADR ar gyfer staff

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sandra Miles
Teitl y swydd
Lead Clinical Practice Educator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 229762
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Cysylltwch rhwng 8:00hrs - 16:00 yn ystod yr wythnos.  

Os nad ydych yn gallu cysylltu gyda Sandra Miles, cysylltwch a: 

Nerys Davies, Uwch Rheolwr Nyrsio ar gyfer Gofal Critigol. 

[email protected] 

01267 248708