Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ophthalmoleg
- Gradd
- GIG AfC: Band 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR272-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/09/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 02/10/2025
Teitl cyflogwr

Prif Nyrs Iau/Prif Nyrs Offthalmoleg
GIG AfC: Band 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r Gwasanaeth Offthalmoleg yn chwilio am nyrs ddymunol a llawn cymhelliant i ymgymryd â rôl Prif Nyrs Iau yn Uned Llygaid Tysul yn Ysbyty Glangwili.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol wybodaeth helaeth am yr arbenigedd a phrofiad eang ohono, ynghyd â phrofiad o redeg ardal/adran.
Mae Uned Llygaid Tysul yn darparu clinigau asesu cyn llawdriniaethau sy'n benodol i Offthalmoleg, clinigau brys ar gyfer y llygaid, a gwasanaeth derbyn/rhyddhau cleifion ar gyfer y theatr. Mae'r tîm hefyd yn darparu cymorth i roi pigiadau mewnwydrog yn Ysbyty Dyffryn Aman, ac felly mae teithio'n agwedd hanfodol ar y rôl hon.
Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu ac ymweld cyn y cyfweliad. Byddem yn croesawu ymgeiswyr sy'n chwilio am swydd ran-amser neu lawn-amser gan y gellir trafod hyn.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gyfuno ymarfer clinigol rhagorol â'r gwaith o ddydd i ddydd o gydgysylltu sifftiau, ynghyd ag ymgymryd â chyfrifoldebau arwain a rheoli i gynorthwyo'r Uwch-brif Nyrs.
Cydweithio â'r Uwch-brif Nyrs, a'i chefnogi'n barhaus, gan ddirprwyo/ofalu am yr ardal/y tîm clinigol yn absenoldeb yr Uwch-brif Nyrs.
Darparu sgiliau rheoli ac arwain goruchwyliol mewn amgylchedd clinigol sy'n gymhleth ac o dan bwysau mawr.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Asesu anghenion gofal, a datblygu, gweithredu a gwerthuso'r rhaglenni gofal heb oruchwyliaeth.
Lle bo'n briodol, dirprwyo'r broses o ddarparu gofal, a hynny'n unol â fframwaith dirprwyo GIG Cymru. Goruchwylio'r broses o ddarparu gofal, ynghyd â'r staff sy'n ymwneud â hynny.
Sicrhau bod anghenion corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac ysbrydol y claf yn cael eu diwallu, gan gynnwys yr agweddau sylfaenol ar anghenion gofal.
Monitro a gwerthuso safonau'r gofal a ddarperir gan y tîm clinigol.
Bod yn weladwy ac ar gael yn yr ardal glinigol i'r tîm nyrsio a'r tîm amlddisgyblaethol ehangach, y cleifion a defnyddwyr gwasanaethau.
Cydweithio â'r Uwch-brif Nyrs, a'i chefnogi'n barhaus, yn ogystal â dirprwyo'n ffurfiol ar ei chyfer yn ei habsenoldeb.
Gweithio ochr yn ochr â'r tîm amlddisgyblaethol, a darparu cyngor nyrsio arbenigol fel y bo'n briodol i'ch meysydd arbenigedd eich hun.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 02/10/2025
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gradd Nyrsio
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ôl-gofrestru e.e. Triniaeth Cynnal Bywyd Ganolradd
- Ymwybyddiaeth o Bolisïau, Gweithdrefnau a Chanllawiau'r Bwrdd Iechyd
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant ophthalmoleg arbennig
- Cymhwyster rheoli cydnabyddedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad priodol o'ch arbenigedd a'r gallu i amlygu gwybodaeth gadarn am yr arbenigedd perthnasol
- Y gallu i amlygu gwybodaeth gadarn am God y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2015)
- Profiad o weithio mewn amgylchedd amlbroffesiynol
- Profiad o redeg ward/ardal/adran
- Profiad o weithio gyda myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth cyn-gofrestru
- Profiad o addysgu a mentora myfyrwyr nyrsio neu fyfyrwyr bydwreigiaeth cyn-gofrestru, a hynny mewn modd ffurfiol/anffurfiol.
- Dealltwriaeth o'r agenda nyrsio a gofal iechyd ehangach
- Sgiliau TG
- Profiad o reoli goruchwyliol
- Gallu cysylltu theori ag ymarfer trwy sgiliau myfyriol
Meini prawf dymunol
- Profiad o gydlynu tîm.
- Profiad o hwyluso dysgu yn ystod ymarfer, ac o ganlyniad iddo
- Profiad blaenorol o arwain a rheoli
- Ymwybyddiaeth o faterion cyfoes ym maes nyrsio ac yn eich arbenigedd
- Ymwybyddiaeth o reolaeth ariannol a rheoli adnoddau
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Marta Barreiro Martins
- Teitl y swydd
- Senior Nurse Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07815022127
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth