Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Offthalmoleg
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Mae oriau llawn a rhan amser amrywiol ar gael.
Cyfeirnod y swydd
100-ACS087-0426
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£26,300 - £27,890 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
19/04/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
01/05/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-weithiwr Cymorth, Offthalmoleg

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.

Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086

Trosolwg o'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n rhan o dîm o staff nyrsio ym maes Offthalmoleg, a bydd gofyn iddo ymgymryd ag ystod o dasgau a ddyrennir iddo, a fydd yn cynnwys gofal uniongyrchol ac anuniongyrchol er lles y claf. Bydd yn cynorthwyo Nyrs Gofrestredig ac yn cael ei oruchwylio ganddi.

Efallai y bydd gofyn i ddeiliad y swydd ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol a dyletswyddau'r dderbynfa yn y rôl hon.

Mae'r rôl hon yn cwmpasu ardal Sir Gaerfyrddin, lle darperir gofal yn bennaf o Ysbyty Cyffredinol Glangwili, gyda gwaith wedi'i gynllunio yn cael ei wneud yn Ysbyty Dyffryn Aman yn Rhydaman dridiau’r wythnos. Oherwydd datblygiadau cyson i'r gwasanaethau, efallai y bydd gwaith achlysurol yn cael ei gyflawni o safleoedd eraill, neu y bydd angen 
cymorth ar safleoedd eraill lle darperir Offthalmoleg, ac mae gallu teithio rhwng safleoedd yn rhan hanfodol o’r rôl.

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ddilyn hyfforddiant lleol ar ôl dechrau yn y rôl, i'w alluogi i weithio ar y lefel ofynnol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 01/05/2026. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Yn meddu ar ddealltwriaeth dda o iechyd a/neu ofal cymdeithasol, e.e. arsylwadau clinigol, ac ati.
  • NVQ lefel 2/cymhwyster lefel 2 mewn pwnc perthnasol i ofal iechyd
  • NVQ lefel 3/hyfforddiant Agored Cymru mewn pwnc perthnasol i offthalmoleg/ofal iechyd sy'n briodol i'r rôl, neu brofiad cyfatebol megis cyflenwi'n annibynnol ar gyfer clinigau, mynd ati'n annibynnol i gynnal profion diagnostig ar amrywiaeth o Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus a dysgu pellach, e.e. lefel 4 Cymhwyster TG gyfarpar Offthalmoleg, megis profion maes gweld ac OCT. (Rhaid i ddeiliaid swyddi sydd â phrofiad cyfatebol yn unig fod yn barod i weithio tuag at sicrhau cymhwyster lefel 3 sy'n briodol i'r rôl.)
  • Yn cydnabod yr angen am ddysgu gydol oes
  • Yn amlygu dealltwriaeth o rôl a chwmpas ymarfer staff Cymorth Offthalmig, ac yn deall egwyddorion dirprwyo gofal mewn modd diogel
  • Gwybodaeth am y Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru a Chanllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Dirprwyo (AaGIC)
  • Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau perthnasol mewn lleoliadau gofal iechyd (er enghraifft egwyddorion diogelu oedolion/plant i gadw cleifion yn eu gofal yn ddiogel) a chyfrinachedd (er enghraifft y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR))
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus a dysgu pellach, e.e. lefel 4
  • Cymhwyster TG

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad perthnasol i Offthalmoleg
  • Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant hanfodol ychwanegol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd ysbyty
  • Profiad o weithio mewn adran/gwasanaeth offthalmig

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Amy James
Teitl y swydd
Senior Sister
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227594
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg