Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Anadlol
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR259-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbuty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £48,527 - £55,532 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/09/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 11/09/2025
Teitl cyflogwr

Nyrs Glinigol Anadlol Arbenigol
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Nyrs Glinigol Anadlol Arbenigol i ddarparu arweinyddiaeth dosturiol i'r tîm o nyrsys anadlol wedi'u lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Rhaid iddi amlygu cymhelliant a brwdfrydedd dros ofal anadlol, yn ogystal â meddu ar lefel uchel o sgiliau i gefnogi'r agweddau clinigol a rheolaethol ar gefnogi'r tîm clinigol yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili a gyda'r tîm anadlu ehangach yn Hywel Dda. Yn unol â pholisïau'r Bwrdd Iechyd, rydym yn hapus i ystyried trefniadau amgen yn lle swydd lawn-amser os bydd hynny'n diwallu anghenion y gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y prif ddyletswyddau'n cynnwys dal llwyth achosion clinigol a allai gynnwys is-arbenigedd sy'n agored i drafodaeth mewn lleoliad cleifion allanol. Rhaid i'r ymgeisydd allu amlygu'r broses o ddefnyddio a hyrwyddo ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth i hybu iechyd, annibyniaeth a hunanreolaeth, glynu wrth driniaethau, ymyriadau diagnostig, a chyfeirio at ymyriadau/wasanaethau allweddol.
Cefnogi'r gwasanaethau a'r timau acíwt yn yr ysbyty i reoli amrywiaeth o gyflyrau anadlol (NIV acíwt, COPD, asthma), yn ogystal â darparu mewnbwn i hyfforddiant a datblygu'r gwasanaeth. Cefnogi'r broses o gychwyn ymyriadau amserol i hybu llif cleifion a rhyddhau cleifion yn ddiogel o'r ysbyty.
Arwain y gwaith o gynnal archwiliad clinigol a rhoi'r canlyniadau ar waith i gwblhau'r cylch archwilio. Cefnogi datblygiad ymchwil glinigol yn y tîm. Cysylltu â'r tîm anadlu ehangach yn Hywel Dda i weithio tuag at fod yn un tîm integredig.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 11/09/2025
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Cymhwyster lefel Meistr neu brofiad cyfatebol
- Cymwysterau mewn asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD)
- Cymhwyster addysgu
- Cymhwyster mewn Presgripsiynu Anfeddygol neu'n barod i ymgymryd â chymhwyster o'r fath
- Cwrs achrededig mewn arweinyddiaeth a rheolaeth
- Tystiolaeth o gynnwys canllawiau cenedlaethol neu ryngwladol allweddol cyfredol
Meini prawf dymunol
- Diploma anadlol arall neu gymwysterau lefel gradd ARTP, neu dystysgrif Sbirometreg Ymarferol a Dehongli achrededig debyg
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o weithio mewn maes gyda chleifion clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), asthma, bronciectasis, clefyd niwronau motor
- Profiad o ddarparu goruchwyliaeth glinigol
- Profiad o fonitro a gwerthuso gwasanaethau
- Profiad o addysgu disgyblaethau eraill
- Profiad o gyflwyno i ystod o gynulleidfaoedd
- Tystiolaeth o ddefnyddio cynlluniau gweithredu asthma
- Profiad o drefnu a dehongli ymchwiliadau/profion Rheoli cleifion y mae arnynt angen CPAP acíwt
- Rheoli cleifion yn defnyddio gwyntylli non-fyw ac yn gartrefol
Meini prawf dymunol
- Profiad o arwain tîm clinigol
- Wedi cymryd rhan mewn proses rheoli newid
- Tystiolaeth o gynorthwyo i gynllunio a datblygu gwasanaethau
- Gwaith wedi'i gyhoeddi
- Profiad o gynnal archwiliadau, ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno canlyniadau archwiliadau i weithwyr iechyd proffesiynol eraill
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Joe Annandale
- Teitl y swydd
- Respiratory Nurse Specialist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 783515
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth