Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Diogelu Plant
- Gradd
- Gradd 8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Gwener 09.00 - 17.00)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR064-0326
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £56,514 - £63,623 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 29/03/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 09/04/2026
Teitl cyflogwr
Arweinydd Diogelu a Nyrs Enwebedig ym maes Diogelu Plant
Gradd 8a
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn brofiadol ym maes diogelu ac amddiffyn y cyhoedd?
Mae gennym gyfle unigryw a chyffrous i arweinydd nyrsio profiadol yn y tîm Diogelu Corfforaethol. Rydym yn dîm cyfeillgar a chefnogol sy’n chwilio am Nyrs Enwebedig aymarferydd arweiniol profiadol sy’n cymell ei hun i arwain y BIP i gyflawni’r cyfrifoldebau statudol i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod.
Bydd deiliad y swydd yn darparu sgiliau a chymwyseddau uwch i ddylanwadu ar y gwaith o gyflawni’r blaenoriaethau gweithredol a strategol ar gyfer diogelu ac amddiffyn plant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan roi cymorth yn hynny o beth. Bydd yn cyflenwi
arweinyddiaeth broffesiynol berthnasol o ran diogelu, ac yn sicrhau bod cyngor arbenigol ar gael ledled BIP Hywel Dda, gan gynnwys ym maes gofal sylfaenol.
Bydd deiliad llwyddiannus y swydd yn gweithio'n rhan o Dîm Diogelu corfforaethol y BIP, a hynny ar lefelau strategol a gweithredol fel ei gilydd. Bydd yn darparu arweinyddiaeth gref mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill, gan adrodd i’r Pennaeth Diogelu.
Gallwn gefnogi model gweithio hybrid.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae’r timau Diogelu Corfforaethol a'r timau Plant sy’n Derbyn Gofal yn cydweithio’n agos i weithredu prosesau atal, nodi, asesu ac ymateb ar gyfer pob oedran yn achos y rhai hynny ym Mwrdd Iechyd y Brifysgol y mae camdriniaeth ac esgeulustod, trais domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt.
Bydd deiliad y swydd yn rheoli’r Ymarferwyr Diogelu Arbenigol, a bydd yn gweithio mewn partneriaeth agos ag ystod o asiantaethau statudol ac anstatudol mewnol ac allanol. Mae'r rhain yn cynnwys partneriaid yn yr Awdurdodau Lleol; Heddlu Dyfed-Powys; Grwpiau Strategol a Chyflawni Rhanbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Canolbarth a Gorllewin Cymru; rhwydwaith VAWDASV GIG Cymru; Bwrdd Diogelu Oedolion a Phlant Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru, a grwpiau eraill fel y bo'n briodol.
Bydd deiliad y swydd yn arbenigwr arweiniol yn ei faes, ac yn gallu gweithio'n annibynnol ond mewn cysylltiad agos â'r Meddyg Penodol a'r Pennaeth Diogelu.
Bydd yn goruchwylio'r broses o weithredu deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol o ran diogelu ac amddiffyn y cyhoedd.
Bydd yn darparu cymorth a chyngor i gyd-weithwyr yn y gwaith o gyflawni asesiadau clinigol a gofal o blant a phobl ifanc, ac yn mabwysiadu dull pob oedran lle ceir pryderon diogelu/amddiffyn plant yn rhan o’i rôl, ond bydd yn eglur ynghylch atebolrwydd proffesiynol clinigol personol gweithwyr eraill.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol;
- 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 09/04/2026
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster proffesiynol cofrestredig: Nyrs Gofrestredig, ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (Ymweliadau Iechyd/Nyrsio Ysgolion)
- Gradd meistr neu brofiad cyfatebol, ynghyd â chofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol pellach
- Tystiolaeth o DPP penodol yn achos diogelu plant, oedolion a VAWDASV
- Gwybodaeth uwch am ddeddfwriaeth berthnasol a'i goblygiadau ar gyfer ymarfer
- Dealltwriaeth fanwl o rol a swyddogaeth asiantaethau eraill
- Gwybodaeth am waith a swyddogaethau'r Byrddau Diogelu
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ol-raddedig mewn diogelu
- Cymhwyster addysgu
- Cymhwyster rheoli/arwain
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn rol ddiogelu ar lefel amlasiantaeth
- Profiad o oruchwylio staff
- Profiad o gyfrannu at adolygiadau amlasiantaethol perthynol i ddiogelu
- Profiad o ddatblygu a chyflenwi addysg, hyfforddiant a strategaethau cymorth
- Profiad o ddatblygu canllawiau a pholisiau clinigol ar gyfer diogelu
- Profiad o lunio barn yn ymwneud a phroblemau/sefyllfaoedd hynod o gymhleth ac o roi atebion ymarferol ar waith, ynghyd â gwybodaeth am hyn oll
- Profiad o reoli, adfer, dadansoddi a chyflwyno data cymhleth.
- Profiad o weithio gyda Byrddau Diogelu ac asiantaethau partner i ddiogelu oedolion
- Tystiolaeth o gynnal archwiliadau, gwerthuso gwasanaethau ac ysgrifennu adroddiadau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Charlotte Westacott
- Teitl y swydd
- Head of Safeguarding
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07790 599200
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth




