Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Theatre
- Gradd
- GIG AfC: Band 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR243-0826
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £40,559 - £48,841 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 31/08/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 10/09/2026
Teitl cyflogwr
Addysgwr Ymarfer Clinigol, Gwasanaethau Theatr
GIG AfC: Band 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r Addysgwr Ymarfer Arweiniol i weithredu’r cynllun addysg ar gyfer y gwasanaethau theatr. Bydd yn sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir o safon broffesiynol uchel yn unol â Chanllawiau Sefydliadol Rheoleiddiol Lleol a Chenedlaethol.
O fod yn Nyrs Broffesiynol/Ymarferydd yr Adran Lawdriniaethau, mae’r Addysgwr Ymarfer Clinigol yn gyfrifol am ddarparu cyngor arbenigol, cywirdeb a chanolbwyntio hirfaith i gleifion, staff nyrsio a staff meddygol wrth ddarparu addysg cysylltiedig â’r theatr am ofal amweithredol, amdriniaethol ac ôl-driniaethol yn amgylchedd y theatr.
Gweithio mewn rôl glinigol ochr yn ochr ag ymarferwyr theatr i ddarparu addysg yn amgylchedd y theatr.
Gweithio’n annibynnol fel enghraifft broffesiynol arbenigol a hygyrch i nyrsys cofrestredig, ymarferwyr yr adran lawdriniaethau, gweithwyr cymorth nyrsio a grwpiau staff cymorth theatr.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cynorthwyo i greu diwylliant dysgu gweithredol ar gyfer yr holl staff. Gweithio gyda’r addysgwr ymarfer arweiniol i lunio cynlluniau ar gyfer diwallu anghenion addysgol clinigol unigolion neu grŵp.
Hwyluso’r broses o gyflawni a gwerthuso sesiynau addysgu ffurfiol/anffurfiol a chydweithio â rhanddeiliaid ar gyfer rhaglenni dysgu yn y gwaith sy’n cynnwys rhaglenni meddalwedd.
Cynnig cymorth gyda mentrau sy’n arwain at newidiadau i ymarfer a systemau gweithio cyfredol y mae angen eu newid yn unol â safonau cenedlaethol a phroffesiynol.
Cynnig cymorth gyda’r broses o ddatblygu a diweddaru rhaglenni hyfforddi a chynefino sy’n cefnogi datblygiad nyrsys cofrestredig, ymarferwyr yr adran lawdriniaethau, gweithwyr cymorth nyrsio a grwpiau staff cymorth theatr. Nodi bylchau mewn sgiliau a gwybodaeth, a darparu adborth priodol i gefnogi cynnydd.
I sicrhau bod y Theatr yn parhau i fod yn amgylchedd dysgu ymarfer arloesol, cefnogi myfyrwyr y Brifysgol gan sicrhau eu bod yn cael eu goruchwylio gan staff dynodedig yn unol â gofynion y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) a’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
Cefnogi’r broses o neilltuo a datblygu pob newydd-ddyfodiad a dysgwr newydd i sicrhau ei fod yn cwblhau ei lyfrau gwaith cynefino a’i adolygiadau mewn modd amserol, gan gysylltu â rheolwyr llinell ac uwch-arweinwyr ar gyfer y theatr.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 10/09/2026
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig/ymarferydd yr adran lawdriniaethau
- Cymhwyster lefel gradd neu gyfwerth
- Mentoriaeth
- Tystiolaeth o DPP a sgiliau estynedig, ynghyd â meysydd dynodedig o gyfrifoldebau ychwanegol
- Tystiolaeth o astudiaethau ôl-gofrestru ym maes Theatrau hyd at lefel diploma neu lefel gyfatebol
- Cymhwyster asesydd neu’n gweithio tuag at hynny
- Gwybodaeth gyfredol am agendâu lleol a chenedlaethol
- Gwybodaeth am weithredu newid
- Y gallu i gymhwyso polisïau Lleol a Chenedlaethol i ymarfer
- Gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol ragorol
- Yn gyfarwydd â’r canllawiau arfer gorau diweddaraf
- Tystiolaeth o ymarfer a datblygiad seiliedig ar dystiolaeth
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu ôl-raddedig (TAR)
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol pellach
- Yn gweithio tuag at MSc (lefel 7)
- Tystiolaeth o gwrs rheoli cydnabyddedig
- Cwrs arweinyddiaeth
- IQT Arian
- Gwybodaeth am ddeddfwriaethau a chanllawiau priodol y llywodraeth
- Gwybodaeth am ddeddfwriaethau a chanllawiau priodol y llywodraeth
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestredig sylweddol mewn Theatrau ar Fand 6 a/neu brofiad mewn perthynas â chydgysylltu sifftiau Theatr yn absenoldeb Prif Nyrs Band 6/7
- Safon uchel brofedig o ofal nyrsio
- Tystiolaeth o gymryd rhan mewn prosesau Gwella Ansawdd
- Tystiolaeth o gymryd rhan mewn addysgu ffurfiol ac anffurfiol ac mewn datblygu sgiliau clinigol yn y Gwasanaethau Theatr
Meini prawf dymunol
- Profiad o arwain tîm
- Profiad o archwilio/werthuso
- Profiad o’r broses recriwtio/gyf-weld
- Profiad o gymryd rhan mewn adrodd am ddigwyddiadau ac ymchwilio iddynt
- Profiad o gymryd rhan yn y broses PADR ar gyfer staff
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Level 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Angela Festa
- Teitl y swydd
- Lead Practice Educator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 783090
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth




