Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Theatrau
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR203-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 27/07/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 07/08/2025
Teitl cyflogwr

Ymarferydd Theatrau - Sgryb
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'r Tîm Sgrybs. Mae hwn yn gyfle datblygu cyffrous i weithiwr proffesiynol cofrestredig. Darperir hyfforddiant ynghyd â rhaglen cymhwysedd lawn ychwanegol, warchodedig ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae swyddi llawn-amser a rhan-amser ar gael ar lefel Band 5 yn y Tîm Sgrybs. Mae hyn yn agored i Ymarferwyr dibrofiad neu brofiadol a hoffai her newydd. Bydd hyfforddiant llawn ar sail cymhwysedd yn cael ei ddarparu a’i gefnogi gan Fentoriaid yn yr adran, yn ogystal ag Addysgwyr Ymarfer ein Bwrdd Iechyd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ymarferydd Cofrestredig a fydd yn cefnogi'r tîm amdriniaethol trwy ddarparu cymorth medrus ym maes Sgrybs.
Y gallu i gymhwyso damcaniaeth at ymarfer er mwyn darparu gofal amdriniaethol o safon uchel i bob claf, gan sicrhau y glynir wrth bolisïau a gweithdrefnau.
Y gallu i weithio fel aelod o'r tîm gweithredu. Pan fyddwch yn gwbl gymwys, bydd hyn yn cynnwys ymrwymiad y tu allan i oriau ac ar alwad.
Pan fyddwch yn gymwys, y gallu i arwain tîm mewn theatr llawdriniaethau gan arfer sgiliau cyfathrebu rhagorol i sicrhau effeithlonrwydd a hwylustod wrth gynnal gofal diogel ac effeithiol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cynhelir cyfweliadau ar 07/08/2025.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o
- fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) NEU'R Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
- Nyrs Gyffredinol Gofrestredig NEU Ymarferydd Adrannol Gweithrediadau Cofrestredig
- Ymrwymiad i ymgymryd â chwrs astudio priodol
- Yn meddu ar wybodaeth am yr holl arbenigeddau llawfeddygol yn yr adran lawdriniaethau, ynghyd â dealltwriaeth ohonynt
- Yn meddu ar dystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Meini prawf dymunol
- Diploma mewn ymarfer amdriniaethol theatrau
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o ddefnyddio offer a deunyddiau
Meini prawf dymunol
- Profiad ol-gofrestredig
- Profiad perthnasol o bob arbenigedd – Cyffredinol/Orthopedig/Gynaecoleg/Wroleg/Trawma
- Profiad o oruchwylio/addysgu myfyrwyr, staff cymorth ac eraill
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sara Harries
- Teitl y swydd
- Clinical Practice Educator-Theatres
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227377
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Cysylltwch a Nino Guevarra am fanylion pellach.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth