Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Theatrau
Gradd
Band 6
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Gweithio y tu allan i oriau/ar benwythnosau a chymryd rhan mewn rota ar alwad.
Cyfeirnod y swydd
100-NMR254-0825
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
03/09/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
16/09/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ymarferydd Theatr -Sgrybs

Band 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

A ydych yn Ymarferydd Sgrybs profiadol a llawn cymhelliant sy'n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa?

Rydym wrth ein bodd ein bod yn recriwtio Ymarferwyr Sgrybs Band 6 i ymuno â'n  Theatr fywiog yn Ysbyty Glangwili!

Mae ein theatrau'n cefnogi ystod eang o arbenigeddau, gan gynnwys Llawfeddygaeth Gyffredinol Frys, Obstetreg a Gynaecoleg Dewisol a Brys, Trawma ac Orthopedig, y Glust, y Trwyn a'r Gwddf, Wroleg, ac Offthalmoleg – gan gynnig profiad clinigol cyfoethog ac amrywiol. Os oes gennych y sgiliau hyn, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

Fel gweithiwr Band 6, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ein Prif Nyrsys Band 7 gyda rheolaeth weithredol ddyddiol yr ystafell theatr, gan sicrhau bod gofal cleifion o safon uchel a gwasanaeth hwylus ac effeithlon yn cael eu darparu.

Byddwch yn rhan o dîm brwdfrydig a dynamig mewn amgylchedd dysgu cyfeillgar a chefnogol, lle mae dysgu a datblygu yn cael eu hyrwyddo gan ein Tîm Datblygu Ymarfer pwrpasol.  Rydym wedi ymrwymo i arloesedd a thwf proffesiynol parhaus, ynghyd â chyfleoedd rhagorol i wella eich sgiliau arweinyddiaeth a datblygu eich gyrfa.Sylwer: mae'r rôl hon yn cynnwys gweithio y tu allan i oriau gwaith a chymryd rhan mewn rota ar alwad i gefnogi ein gwasanaeth 24/7.

Dewch i fod yn rhan o rywbeth eithriadol – lle mae eich arweinyddiaeth, eich arbenigedd a'ch uchelgais yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr iawn.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cefnogi arweinydd(ion) yr adran i gynnal gwasanaeth effeithlon ac effeithiol sy'n darparu gofal diogel i gleifion mewn amgylchedd sy'n hyrwyddo ymagwedd ymatebol at anghenion gofal iechyd sy'n newid.

Darparu sgiliau rheoli ac arwain goruchwyliol, a byddwch yn awyddus i sicrhau hunanddatblygiad mewn perthynas ag astudiaethau rheoli ac arwain.

Cefnogi a chydweithio â'r Rheolwyr Tîm i sicrhau bod gofal nyrsio o safon uchel yn cael ei ddarparu mewn modd effeithiol.

Arwain y gwaith o redeg maes/adran glinigol arbenigol o ddydd i ddydd, a phan neilltuir hynny, chi fydd cydlynydd dyddiol yr adran, gan ddarparu sgiliau rheoli ac arwain goruchwyliol mewn amgylchedd sy’n gymhleth ac o dan bwysau.

Bod yn ymarferydd brys medrus a fydd yn gweithio'n annibynnol i gefnogi cyd-weithwyr eraill i gydlynu'r meysydd clinigol a darparu gwybodaeth arbenigol, a hynny gan sicrhau bod gweithlu nyrsio/ymarferwyr medrus yn cael ei gynnal a'i ddatblygu.

Cymryd rhan mewn rota ar alwad a rota nos, ar delerau'r Agenda ar gyfer Newid.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais. 

Cyfweliadau i'w cynnal ar 16/09/2025.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o
  • fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig Gyffredinol Lefel 1 neu Ymarferydd Adrannol Gweithredol Cofrestredig.
  • Hyfforddiant/addysg glinigol benodol yn ymwneud â theatr/adfer/anaestheteg
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus hyd at lefel diploma ôl-raddedig
  • Sgiliau nyrsio clinigol estynedig
  • Yn barod i ymgymryd â rhaglen datblygu arweinyddiaeth fewnol yn y ddwy flynedd nesaf
  • Yn barod i ymgymryd â hyfforddiant arall sy'n hanfodol i'r rôl
Meini prawf dymunol
  • Rhaglen Rheolaeth/Arweinyddiaeth
  • BSc (mewn pwnc cysylltiedig ag iechyd)/yn barod i weithio tuag at hynny
  • Tystysgrif/diploma mewn nyrsio Obstetreg neu Trawma
  • Modiwl Addysgu ac Asesu
  • Cwrs/Modiwl Gofal Critigol cydnabyddedig

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-gofrestru gan gynnwys profiad yn y maes clinigol perthnasol
  • Cymwyseddau amlsgiliau yn yr adran lawdriniaethau

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
James Sheldon
Teitl y swydd
Senior Nurse Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 283185
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Patricia  Jootse 

Rheolwr Uwch Nyrs  - Theatrau  

[email protected] 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg