Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Theatrau
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Sifftiau dydd a hwyr, penwythnosau gyda sifftiau nos)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR181-0626
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £40,559 - £48,841 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/07/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 20/07/2026
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Theatr (Anestheteg)
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn Ymarferydd Anestheteg profiadol, llawn cymhelliant sy’n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa?
Rydym yn falch iawn o fod yn recriwtio Ymarferwyr Anestheteg Band 6 i ymuno â'n Hystafelloedd Theatr prysur yn Ysbyty Glangwili!
Mae ein theatrau'n cefnogi ystod eang o arbenigeddau, gan gynnwys Llawfeddygaeth Gyffredinol Frys, Obstetreg a Gynaecoleg Dewisol a Brys, Trawma ac Orthopedig, y Glust, y Trwyn a'r Gwddf, Wroleg, ac Offthalmoleg – gan gynnig profiad clinigol cyfoethog ac amrywiol. Os oes gennych y sgiliau hyn, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
A chithau’n weithiwr Band 6, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ein Tîm Arwain Band 7 gyda rheolaeth weithredol yr ystafelloedd theatr o ddydd i ddydd, gan sicrhau gofal o safon i gleifion a gwasanaeth hwylus ac effeithlon.
Byddwch yn rhan o dîm dynamig, uchel ei gymhelliant mewn amgylchedd dysgu cyfeillgar a chefnogol, lle mae dysgu a datblygu yn cael eu hyrwyddo gan ein Tîm Datblygu Ymarfer pwrpasol. Rydym wedi ymrwymo i arloesi a thwf proffesiynol parhaus, ynghyd â chyfleoedd rhagorol i wella eich sgiliau arwain a chamu ymlaen yn eich gyrfa. Sylwer:
mae'r rôl hon yn cynnwys gweithio y tu allan i oriau gwaith a chymryd rhan mewn rota ar alwad i gefnogi ein gwasanaeth 24/7.
Dewch i fod yn rhan o rywbeth eithriadol – lle mae eich arweinyddiaeth, eich arbenigedd a'ch uchelgais yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr iawn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae gan yr Adran amgylchedd cefnogol a chyfeillgar, sy'n canolbwyntio'n gryf ar waith tîm a gofal cleifion. Byddai'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar gymhwyster Nyrs Gyffredinol Gofrestredig / Nyrs Gofrestredig neu Ymarfer Adran Lawdriniaethau.
Rydym wrthi’n darparu lleoliadau myfyrwyr, felly rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster mentora neu fod yn barod i weithio tuag at un.
Darparu sgiliau rheoli ac arwain goruchwyliol, ac yn awyddus i sicrhau hunanddatblygiad mewn perthynas ag astudiaethau arwain.
Cefnogi arweinwyr adrannol i gynnal gwasanaeth effeithlon ac effeithiol sy'n darparu gofal diogel i gleifion, a hynny mewn amgylchedd sy'n hyrwyddo ymagwedd ymatebol at anghenion gofal iechyd sy'n newid.
Arwain y gwaith o redeg ardaloedd clinigol arbenigol o ddydd i ddydd, a phan neilltuir hynny, chi fydd Cydlynydd Theatrau yr adran, gan ddarparu sgiliau rheoli ac arwain goruchwyliol mewn amgylchedd sy’n gymhleth ac o dan bwysau.
Darparu gofal brys ar draws safle’r ysbyty ar blipiau argyfwng sy’n cefnogi’r timau Dadebru, Ymateb i Drawma ac Obstetreg.
Bod yn ymarferydd brys medrus a fydd yn gweithio’n annibynnol i gefnogi cyd-weithwyr eraill i gydlynu ardaloedd clinigol a darparu gwybodaeth arbenigol, a hynny gan sicrhau bod gweithlu o Nyrsys/Ymarferwyr medrus yn cael ei gynnal a’i ddatblygu.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 20/07/2026
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gywbodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig Cyffredinol Lefel 1 neu Ymarferydd Adrannol Gweithredol Cofrestredig
- Hyfforddiant/addysg glinigol benodol yn ymwneud a'r theatr/adferiad/anaestheteg
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus i lefel diploma ol-raddedig
- Sgiliau nyrsio clinigol estunedig
- Yn barod i ymgymryd a rhaglen datblygu arweinyddiaeth fewnol yn y ddwy flynedd nesaf
- Yn barod i ymgymryd a hyfforddiant arall sy'n hanfodol i'r rol
Meini prawf dymunol
- Rhaglen Arweinyddiaeth Reoli
- BSc (mewn pwnc cysylltiedig ag iechyd)/ yn barod i weithio tuag at hynny
- Tystygrif/ diploma mewn nyrsio orthopedig neu drawma
- Modiwl Addysgu ac Asesu
- Modiwl Cwrs Cydnabyddedig Gofal Critigol
- Modiwl Goruchwyliaeth Glinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ol-gofrestru gan gynnwys profiad yn y maes clinigol perthnasol
- Cymwyseddau amlsgiliau gyda'r adran llawdriniaethu
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ashleigh Oakham
- Teitl y swydd
- ODP Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 235151
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth




